Mae Morgannwg wedi colli gêm gyffrous ar bedwerydd diwrnod yr ornest yn ail adran y Bencampwriaeth yn erbyn Swydd Sussex yn y Swalec SSE yng Nghaerdydd.

Roedd gan Swydd Sussex nod o 233 i ennill ar ddechrau eu hail fatiad, a doedd pum wiced yr Iseldirwr Timm van der Gugten – y pedwerydd tro iddo gyrraedd y garreg filltir i Forgannwg – ddim yn ddigon i atal yr ymwelwyr rhag ennill.

Tarodd Chris Nash 64 ar ddechrau batiad Swydd Sussex i osod y seiliau, ond partneriaeth o 55 rhwng Danny Briggs (36) a Ben Brown (42 heb fod allan) am yr wythfed wiced aeth â’r ornest o afael Morgannwg yn y pen draw.

Pan ymunodd George Garton â Brown wrth y llain, dim ond 22 o rediadau oedd eu hangen ar yr ymwelwyr, ac fe gyrhaeddon nhw’r nod gyda sawl pelawd yn weddill o’r diwrnod.

Manylion

Dechreuodd yr ornest hon ddydd Mawrth, union 16 o flynyddoedd ar ôl i gyn-gapten Morgannwg, Steve James daro 309 heb fod allan yn erbyn yr un ymwelwyr ym Mae Colwyn yn 2000.

Bowliodd Swydd Sussex yn gyntaf y tro hwnnw hefyd, ond fe gawson nhw dipyn mwy o lwc ar y diwrnod cyntaf y tro hwn, wrth i Forgannwg gael eu cyfyngu i 56-5 ar lain oedd yn cynnig tipyn o gymorth i’r bowlwyr cyflym o’r dechrau’n deg.

Yr un hen hanes oedd hi yng nghanol y batiad wrth i gyfres o bartneriaethau lwyddo i achub Morgannwg rhag embaras yn y batiad, gyda dim ond Mark Wallace (61) a Graham Wagg (57) yn sgorio dros hanner cant wrth iddyn nhw gael eu bowlio allan am 252, ychydig ar ôl sicrhau ail bwynt bonws.

Ond rhaid canmol bowlwyr Swydd Sussex yn y batiad hwnnw hefyd, gyda Jofra Archer yn cipio pedair wiced am 91, a David Wiese yn cipio tair am 52.

Prin iawn oedd y batwyr wnaeth gyfrannu at gyfanswm batiad cyntaf yr ymwelwyr o 283, ond roedd y rhai a wnaeth gyfrannu – Chris Nash (132), Ed Joyce (47) a Danny Briggs (36) wedi sicrhau bod Swydd Sussex yn mynd i mewn i’r ail fatiad â blaenoriaeth o 31.

Perfformiodd batwyr Morgannwg dipyn gwell yn yr ail fatiad, er iddyn nhw golli Nick Selman yn gynnar yn y batiad. Tarodd Aneurin Donald 59, ac roedd cyfraniadau gwerthfawr o 47 yr un gan y capten Jacques Rudolph a David Lloyd, a 42 gan Will Bragg.

Roedd eu cyfanswm o 263 i gyd allan yn eu hail fatiad yn golygu bod Morgannwg wedi gosod nod o 233 i Swydd Sussex am y fuddugoliaeth.

Collodd Ed Joyce ei wiced oddi ar belen gynta’r batiad, cyn i Nash a Luke Wells ddod at ei gilydd i ychwanegu 86 rhediad am yr ail wiced ac roedd yr ymwelwyr ar eu ffordd.

Gwnaeth van der Gugten dipyn o ddifrod wrth gipio wicedi’n rheolaidd drwy gydol ail fatiad Swydd Sussex fel bod yr ymwelwyr ar un adeg yn 156-7 ac yn wynebu’r posibilrwydd cryf o golli’r gêm.

Ond pan ddaeth Briggs a Nash at ei gilydd, roedd y ddau mewn hwyliau dygn a doedd hyd yn oed bowlio cywir a chyflym yr Iseldirwr van der Gugten ddim yn ddigon i wrthsefyll y cyfuniad o glatsio ac ergydion celfydd a sicrhaodd fod Swydd Sussex yn cyrraedd y nod gydag ychydig belawdau’n weddill o’r gêm.

Unwaith eto, mae Morgannwg yn gorffen y gêm yn waglaw ac fe fyddan nhw’n teimlo y gallen nhw fod wedi cipio’r fuddugoliaeth ym mherfeddion y pedwerydd diwrnod.