Fe fydd cricedwr sy’n enedigol o Gymru’n ymddangos yng ngharfan Swydd Sussex am y tro cyntaf ar gyfer eu hymweliad â’r Swalec SSE yng Nghaerdydd i herio Morgannwg yn ail adran y Bencampwriaeth ddydd Mawrth.

Cafodd Philip Salt ei eni ym Modelwyddan cyn cael ei fagu yn y Caribî, a dychwelyd i Loegr yn ddiweddarach i fynd i ysgol fonedd yn Swydd Surrey.

Mae Prif Hyfforddwr Morgannwg, Robert Croft wedi enwi carfan o 13 dyn ar gyfer yr ornest, gan gynnwys y Cymro Cymraeg o’r Hendy ger Pontarddulais, Owen Morgan, a darodd ei ganred cyntaf i’r sir yr wythnos diwethaf yng Nghaerwrangon.

Yn dychwelyd i’r garfan mae’r Iseldirwr Timm van der Gugten, sydd wedi bod i ffwrdd yn cynrychioli ei wlad.

Chweched yn erbyn seithfed yn y tabl yw hi, ac mae gobeithion y ddwy sir o ennill dyrchafiad i’r adran gyntaf yn y gêm pedwar diwrnod yn pylu’n gyflym.

Byddai angen i Forgannwg ennill yr ornest hon a’r un nesaf oddi cartref yn Swydd Northampton, a dibynnu ar ganlyniadau ffafriol ymhlith y siroedd eraill i herio Swydd Gaerlŷr a Swydd Essex ar frig y tabl.

Carfan Morgannwg: J Rudolph (capten), N Selman, W Bragg, A Donald, D Lloyd, M Wallace, C Meschede, G Wagg, O Morgan, T van der Gugten, M Hogan, R Smith, A Salter

Carfan Swydd Sussex: J Archer, D Briggs, B Brown, C Davis, G Garton, E Joyce, S Magoffin, C Nash, A Sakande, P Salt, L Wells, D Wiese, L Wright (capten)