Mae Morgannwg wedi cyrraedd rownd wyth olaf cystadleuaeth ugain pelawd y T20 Blast ar ôl curo Gwlad yr Haf o saith wiced yng Nghaerdydd.

Y seren ar y noson oedd Colin Ingram, wrth iddo daro 54 a chipio tair wiced am 20 – ei ffigurau bowlio gorau erioed mewn gêm ugain pelawd.

Yn yr wythnos y tarodd Aneurin Donald 234 ym Mae Colwyn, fe ychwanegodd at ei gyfanswm o rediadau gyda 44 heb fod allan, ac roedd e wrth y llain wrth i Forgannwg gyrraedd y nod gyda dwy belawd yn weddill.

Ar ôl gwahodd Gwlad yr Haf i fatio’n gyntaf, llwyddodd Morgannwg i gyfyngu’r ymwelwyr i 152 i gyd allan

Roedd yr ysgrifen ar y mur yn gynnar yn yr ornest i’r ymwelwyr. Er iddyn nhw lwyddo i gyrraedd 90 oddi ar ddeg pelawd cynta’r batiad, roedden nhw eisoes wedi colli pum wiced.

Sicrhaodd James Hildreth (39) fod cyfanswm yr ymwelwyr yn barchus ac roedd angen 153 ar Forgannwg i sicrhau’r fuddugoliaeth a lle ymhlith yr wyth olaf.

Pan ddaeth y ddau Gymro, David Lloyd ac Aneurin Donald ynghyd, fe adeiladon nhw bartneriaeth o 76 oddi ar 53 o belenni ac roedd Morgannwg erbyn hynny’n ymlwybro’n raddol tua’r nod.