Joe Root mewn cynhadledd i'r wasg yng Nghaerdydd
Mae un o sêr tîm criced Lloegr wedi dymuno’n dda i dîm pêl-droed Cymru wrth iddyn nhw baratoi i herio Gwlad Belg yn rownd wyth olaf Ewro 2016 yn Lille nos Wener.

Pe bai Cymru’n ennill heno, bydden nhw’n mynd gam ymhellach na’u perfformiad gorau erioed mewn twrnament rhyngwladol – ar ôl colli yn erbyn Brasil yn yr wyth olaf yng Nghwpan y Byd yn 1958.

Mae Root a charfan criced Lloegr yn paratoi i herio Sri Lanca mewn gêm 50 pelawd yn y Swalec SSE yng Nghaerdydd ddydd Sadwrn.

Mae Lloegr eisoes wedi ennill y gyfres ond fe fydd Root yn awyddus i efelychu ei berfformiad ym mhrawf cyntaf Cyfres y Lludw yn erbyn Awstralia yn y brifddinas y llynedd, pan darodd e 134 yn y batiad cyntaf i osod y seiliau ar gyfer y fuddugoliaeth i Loegr, ac ennill gwobr seren y gêm.

Er bod pêl-droedwyr Lloegr wedi mynd allan yn rownd yr 16 olaf yn Ffrainc ar ôl colli o 2-1 yn erbyn Gwlad yr Iâ, dywedodd Root wrth Golwg360 ei bod hi’n dda gweld Cymru’n llwyddo.

“Dw i’n siŵr y byddwn ni’n gwylio [y gêm] yn rhywle, fwy na thebyg yn y gwesty.

“Galla i ddychmygu y bydd Caerdydd yn eitha bywiog heno, felly bydd rhaid i ni sicrhau ein bod ni’n cadw draw a pharatoi’n dda ar gyfer yfory!

“Bydden i’n eitha hoffi eu gweld nhw’n gwneud yn dda, felly pob lwc heno i Gymru!”