Perfformiad tîm cyfan a gafwyd gan Forgannwg unwaith eto nos Wener wrth iddyn nhw guro Swydd Surrey o naw wiced yn y T20 Blast yn y Swalec SSE yng Nghaerdydd.

Yn ei gêm olaf i Forgannwg cyn mynd ymlaen i’r CPL, y gystadleuaeth ugain pelawd yn y Caribî, cipiodd y bowliwr cyflym o Dde Affrica, Dale Steyn ddwy wiced am 20 yn ei bedair pelawd. Roedd dwy wiced yr un hefyd i’r troellwr llaw chwith Dean Cosker (2-23) – y bowliwr cyntaf yn hanes Morgannwg i gipio 100 wiced yn y T20 – a’r bowliwr cyflym llaw chwith Graham Wagg (2-5), wrth i’r ymwelwyr gael eu bowlio allan am 110.

Cipiodd y wicedwr Chris Cooke bedwar daliad ac un stympiad hefyd wrth iddo barhau i gadw’r wicedwr profiadol Mark Wallace allan o’r tîm undydd.

Wrth gwrso 111 am y fuddugoliaeth, tarodd y batiwr llaw chwith o Dde Affrica, Colin Ingram 73 heb fod allan oddi ar 49 o belenni, gan daro saith pedwar a thri chwech wrth i Forgannwg ennill mewn 15.5 o belawdau. Cafodd ei gefnogi gan y capten Jacques Rudolph, oedd yn 40 heb fod allan.

Crynodeb

Lai na thair pelawd gymerodd hi i Forgannwg gipio’u wiced gyntaf ar ôl i Swydd Surrey benderfynu batio. Dale Steyn gipiodd y wiced yn ei gêm olaf i’r Cymry wrth i Steven Davies gael ei ddal gan y wicedwr Chris Cooke, a’r ymwelwyr yn 19-1. Dilynodd Gary Wilson yn fuan wedyn am chwech, wrth i’r wicedwr Cooke sicrhau ei ail ddaliad, y tro hwn oddi ar fowlio Timm van der Gugten a Swydd Surrey yn 24-2.

Daeth y wiced fawr i Forgannwg yn y pumed pelawd wrth i Michael Hogan waredu ar Kumar Sangakkara, wrth iddo yntau ei tharo hi oddi ar ymyl ei fat i gyfeiriad y wicedwr Chris Cooke, ac yntau’n ei dal hi’n uchel ac yn acrobataidd. Erbyn hynny, roedd hi’n ymddangos fel pe bai’r ymwelwyr mewn dyfroedd dyfnion ar 29-3. Erbyn diwedd y cyfnod clatsio, roedd Rory Burns a Ben Foakes wrth y llain, a’r ymwelwyr yn 36-3.

Cafodd Foakes ei redeg allan yn y nawfed pelawd, a’r ymwelwyr yn 54-4 wrth i’r seren o India’r Gorllewin, Dwayne Bravo ddod i’r llain. Ond buan y gwnaeth 54-4 droi’n 56-5, wrth i Rory Burns gael ei ddal gan Cooke oddi ar Craig Meschede a Swydd Surrey wedi cyrraedd 61-5 ar ôl wynebu hanner eu pelawdau.

Daeth chweched wiced i Forgannwg yn eu deuddegfed pelawd, wrth i’r troellwr llaw chwith Dean Cosker ddal Zafar Ansari oddi ar ei fowlio’i hun a’r ymwelwyr yn 74-6. Buan y daeth y seithfed wiced – a’r wiced fawr – wrth i Dwayne Bravo gael ei stympio gan Cooke oddi ar fowlio Cosker am 20, a’r ymwelwyr yn 81-7, a’r bowliwr yn gorffen gyda ffigurau o 2-23.

Dychwelodd Steyn i fowlio’i belawd olaf, ac fe gipiodd ei ail wiced wrth fowlio Sam Curran, a’r ymwelwyr erbyn hynny’n 95-8.

Daeth nawfed wiced i Forgannwg yn y belawd ganlynol, wrth i Tom Curran gael ei ddal ar y ffin gan Michael Hogan wrth geisio ergydio i’r ochr agored oddi ar Graham Wagg, a Swydd Surrey yn 101-9.

Daeth y batiad i ben wrth i Ravi Rampaul ddarganfod dwylo diogel capten Morgannwg, Jacques Rudolph ar y ffin oddi ar fowlio Wagg, a’r ymwelwyr i gyd allan am 110 oddi ar 19.2 o belawdau.

Ond wrth gwrso nod o 111 am y fuddugoliaeth, cafodd Morgannwg y dechrau gwaethaf posib wrth golli’r clatsiwr David Lloyd yn y belawd gyntaf, wedi’i ddal gan Ben Foakes oddi ar fowlio Sam Curran am 0, a Morgannwg yn 0-1.

Ond gyda hynny daeth y ddau fatiwr llaw chwith o Dde Affrica, y capten Jacques Rudolph a Colin Ingram at ei gilydd i gynnig rhywfaint o sefydlogrwydd i Forgannwg yn y cyfnod clatsio wrth iddyn nhw gyrraedd 42-1 erbyn diwedd y chweched pelawd.

Wrth i’r bartneriaeth wthio Morgannwg tua’r nod, cyrhaeddodd Ingram ei hanner canred yn y deuddegfed pelawd, a hynny oddi ar 38 o belenni, gan daro pum pedwar a dau chwech, a’r Cymry’n 88-1 ar ôl tair pelawd ar ddeg. Parhau i glatsio tua’r nod wnaeth y ddau fatiwr ac fe sicrhaon nhw’r fuddugoliaeth ar ôl 15. o belawdau.