Mae Morgannwg wedi rhoi crasfa i Swydd Surrey ar gae’r Oval, wrth iddyn nhw ennill o wyth wiced mewn gêm a gafodd ei llywio gan gyfuniad o fowlio a maesu o’r radd flaenaf gan y Cymry.

Ond Iseldirwr oedd y seren ar y noson, wrth i Timm van der Gugten gipio pedair wiced am 14 yn ei bedair pelawd wrth i’r tîm cartref gyrraedd 93-9 mewn 17.2 o belawdau, ac Azhar Mahmood wedi gorfod ymddeol oherwydd anaf i’w goes.

Cipiodd Craig Meschede a Dean Cosker ddwy wiced yr un, ac roedd un wiced hefyd i Michael Hogan.

12.2 o belawdau’n unig gymerodd hi i Forgannwg gyrraedd y nod o 94, a’r capten Jacques Rudolph yn brif sgoriwr gyda 34 heb fod allan, ac Aneurin Donald wrth y llain gydag e yn taro pedwar i sicrhau’r fuddugoliaeth.

Y ddau fatiwr allan oedd y clatsiwr David Lloyd (31) a Colin Ingram (11) yn ei gêm gynta’r tymor hwn.

Manylion y gêm

Cafodd Morgannwg y batiad perffaith i ddechrau eu hymgyrch yn y T20 Blast wrth iddyn nhw gyfyngu Swydd Surrey i 93-9.

Cipiodd yr Iseldirwr Timm van der Gugten bedair wiced am 14 yn ei bedair pelawd, a dwy ohonyn nhw o fewn un belawd.

Y batiwr cyntaf yn ôl yn y cwtsh oedd Steve Davies, wrth iddo gael ei ddal gan Craig Meschede, cyn i’r wicedwr Chris Cooke neidio ymhell i’w ochr i waredu Kumar Sangakkara.

Aeth 30-2 yn 32-3 yn y pumed pelawd wrth i Colin Ingram orfod troi ar ei sawdl a throi ei gorff yn lletchwith i ddal y bêl oddi ar ergyd yn syth i’r awyr gan Jason Roy.

Zafar Ansari oedd y pedwerydd batiwr i golli ei wiced ym mhelawd ola’r cyfnod clatsio, wrth iddo roi ail ddaliad i Cooke y tu ôl i’r ffyn – y tîm cartref yn 37-4 ar ôl chwe phelawd.

Parhaodd y bowlwyr – cyfuniad o Meschede, Graham Wagg a Dean Cosker – i gynyddu’r pwysau yn y pelawdau nesaf ac fe lwyddodd y tîm cartref i ymlwybro i 56 cyn colli eu pumed wiced wrth i Sam Curran gael ei ddal gan David Lloyd oddi ar fowlio Meschede.

Daeth ergyd ddwbl yn y belawd i’r Llundeinwyr wrth iddyn nhw golli Azhar Mahmood o ganlyniad i anaf i’w goes oedd yn golygu na fyddai ar gael i fowlio’n ddiweddarach yn y noson.

Os oedd y degfed pelawd yn ddigon i godi amheuon am fatwyr Swydd Surrey, roedd yr unfed ar ddeg gan Timm van der Gugten yn ddigon i allu darogan y canlyniad ymhell cyn diwedd y noson. Gary Wilson a James Burke oedd y ddau fatiwr yn ôl yn y cwtsh, y naill wedi’i fowlio a’r llall â’i goes o flaen y wiced.

Llwyddodd Swydd Surrey i gyrraedd 84 cyn colli eu hwythfed wiced, wrth i Tom Curran gael ei ddal gan Meschede oddi ar Cosker.

Gan nad oedd modd i Azhar Mahmood ddychwelyd i fatio, Gareth Batty oedd y batiwr olaf i golli ei wiced, wrth iddo gael ei fowlio gan Dean Cosker yn y ddeunawfed pelawd ac fe orffennodd y tîm cartref ar 93-9.

Er bod nod cymharol isel gan Forgannwg, penderfynon nhw mai Jacques Rudolph a’r clatsiwr David Lloyd fyddai’n agor y batio ac fe ddechreuon nhw’n ddigon sefydlog.

Roedden nhw’n 46-0 ar ddiwedd y cyfnod clatsio – naw rhediad o flaen cyfanswm cyfatebol y tîm cartref.

Collodd Lloyd ei wiced yn yr wythfed pelawd wrth i Matt Pillans darganfod ymyl ei fat, a’r capten Gareth Batty yn aros â’i ddwylo eiddgar, a’r Cymro’n dychwelyd i’r cwtsh ar ôl sgorio 31.

Ar ôl i Colin Ingram gyrraedd y llain y cafwyd yr ergyd gyntaf am chwech, a hynny oddi ar y troellwr llaw chwith Zafar Ansari yn y nawfed pelawd wrth i Forgannwg gyrraedd 75-1.

Ond 11 yn unig sgoriodd Ingram cyn cael ei ddal gan Matt Pillans oddi ar fowlio James Burke yn y degfed pelawd, ac roedd angen 17 o rediadau’n unig ar Forgannwg ar ôl wynebu hanner eu pelawdau.

Daeth hanner cyfle i Sam Curran i ddal Aneurin Donald yn yr ochr agored ond fe ollyngodd ei afael ar y bêl, ac fe ddiflanodd y belen nesaf gan Ansari i grombil y dorf y tu ôl i’r bowliwr.

Rudolph a Donald oedd wrth y llain wrth i Forgannwg gyrraedd y nod oddi ar 12.2 o belawdau, a’r ergyd olaf gan Donald yn cyrraedd y ffin am bedwar.

Cafodd Timm van der Gugten ei enwi’n seren yr ornest gan Sky Sports.

‘Rhagorol’

Dywedodd capten Morgannwg, Jacques Rudolph: “Yn nhermau buddugoliaeth T20, dyna’r gorau gewch chi mae’n siwr.

“Dy’n ni ddim wedi bod yn orfoleddus yn y Bencampwriaeth yn ystod chwe wythnos gynta’r tymor ond roedden ni’n edrych ymlaen at heno ac ro’n i’n credu ei fod yn berfformiad rhagorol, yn enwedig gan y bowlwyr oedd wedi gosod y seiliau ar gyfer y fuddugoliaeth.

“Roedden ni’n teimlo pe baen ni’n gallu cael eu tri [batiwr] uchaf allan y gallen ni roi pwysau arnyn nhw a gobeithio y bydd hyn yn rhoi momentwm ac egni i ni yn yr ystafell newid, yn enwedig gyda Dale Steyn yn cyrraedd ddydd Llun nesaf, a gobeithio y bydd e ar gael ar gyfer ein gêm T20 nesaf yn erbyn Swydd Essex.”