Dale Steyn wedi chwarae i Gujarat yn yr IPL yn India
Mae Morgannwg wedi cadarnhau y bydd bowliwr cyflym De Affrica, Dale Steyn, yn ymuno â nhw ar gyfer cystadleuaeth ugain pelawd y NatWest T20 Blast eleni.

Ar hyn o bryd mae’r gŵr 32 oed yn chwarae gyda’r Gujarat Lions yng nghynghrair yr IPL yn India, ac fe fydd yn cyrraedd Cymru unwaith y bydd y gystadleuaeth honno ar ben.

Y gobaith yw y bydd Steyn yn chwarae dros Forgannwg yn eu gemau cartref yn erbyn Swydd Essex, Swydd Hampshire, Swydd Gaint a Swydd Surrey yn y T20.

Mae ei record fel bowliwr yn cynnwys 406 wiced mewn 82 gêm brawf, 112 gêm undydd ryngwladol a 42 gêm ugain pelawd ryngwladol.

Dim ond am hanner cyntaf y gystadleuaeth y bydd y chwaraewr o Dde Affrica yn aros, ac wedi hynny fe fydd Shaun Tait o Awstralia yn ymuno â’r tîm.

“Roedd yn rhaid i ni fod yn amyneddgar wrth chwilio am dalent tramor y tymor yma, ond rydyn ni wrth ein bodd o fod wedi gallu cwblhau’r cytundeb yma,” meddai prif weithredwr Morgannwg Hugh Morris.

“Roedd y cyfle i arwyddo chwaraewr o’r calibr yma yn un roedd yn rhaid i ni ei gymryd, ac allwn ni ddim aros iddo wisgo crys Morgannwg.”

‘Cyfle delfrydol’

Dywedodd Dale Steyn: “Mae amseru’r cyfle hwn yn ddelfrydol a does dim ffordd well o baratoi na chwarae yn yr IPL.

“Rwy’n gwybod fod Jacques [Rudolph, y capten] a gweddill y tîm wedi gosod nod o gymhwyso ar gyfer rownd yr wyth olaf a byddaf yn gwneud popeth alla i i roi’r dechrau gorau posib i’r tîm.

“Mae hefyd yn gyfle gwerthfawr i gael pelawdau i mewn wrth arwain i fyny at gyfres brawf De Affrica mewn awyrgylch T20.”