Prif Weithredwr Swydd Gaerlŷr, Wasim Khan (Llun: PA)
Fe fydd buddugoliaeth Clwb Criced Swydd Gaerlŷr dros Forgannwg ym Mhencampwriaeth y Siroedd yr wythnos diwethaf yn sylfaen dda ar gyfer gweddill y tymor, yn ôl eu prif weithredwr Wasim Khan.

Sicrhaodd y Saeson fuddugoliaeth o 10 wiced dros y Cymry yn y Swalec SSE yng Nghaerdydd wrth iddyn nhw geisio gwyrdroi tair blynedd o berfformiadau gwael sydd wedi arwain at orffen ar waelod ail adran y Bencampwriaeth bob tymor ers 2013.

Dywedodd Wasim Khan wrth Golwg360: “Fe fydd cael dechreuad da yn erbyn Morgannwg yn bwysig i ni.

“Fel pob sir arall, ry’n ni am sicrhau ein bod ni’n cystadlu’n dda iawn eleni. Mae gyda ni’r garfan i wneud hynny. “

Fe fydd ennill dyrchafiad i’r adran gyntaf yn fwy anodd nag erioed o’r blaen y tymor hwn, yn dilyn penderfyniad Bwrdd Criced Cymru a Lloegr i ad-drefnu’r gystadleuaeth.

O’r tymor nesaf ymlaen, wyth tîm fydd yn cystadlu yn yr adran gyntaf, a 10 yn yr ail adran, sy’n golygu mai un sir yn unig fydd yn gallu ennill dyrchafiad i’r adran gyntaf eleni.

Ac mae Wasim Khan yn sylweddoli maint yr her sy’n wynebu’r sir y bu’n brif weithredwr arni ers ychydig dros flwyddyn bellach.

“Ry’n ni am ennill rhywbeth eleni ac yn amlwg mae dyrchafiad yn rhywbeth y bydd pawb yn anelu ato eleni felly mae’n mynd i fod yn gystadleuol dros ben.

“Mae dau dîm da, Swydd Sussex a Swydd Gaerwrangon wedi dod i lawr eleni ac mae gyda chi dimau fel Swydd Essex sydd yn gryf iawn, felly fe fydd tipyn o gystadleuaeth. Ond ry’n ni’n credu ynom ni’n hunain ac fe fyddwn ni’n rhoi pob cyfle i ni ein hunain.”

Tra bydd Morgannwg yn teithio i Derby yr wythnos hon, fe fydd Swydd Gaerlŷr yn croesawu Swydd Gaint i Ganolbarth Lloegr.