Un o fawrion Clwb Criced Morgannwg, Alan Jones sydd wedi cael ei ethol yn llywydd newydd y sir.

Bydd Jones, y Cymro Cymraeg o Felindre ger Abertawe, yn olynu David Morgan.

Cafodd y newyddion ei gyhoeddi yn ystod Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol y clwb yng Nghaerdydd nos Iau.

Ddiwedd y tymor diwethaf, dywedodd Alan Jones wrth Golwg360 ei fod yn gobeithio gweld nifer o chwaraewyr ifainc o Gymru’n dechrau dod drwodd i’r tîm cyntaf yn 2016.

Gyrfa

Yn fatiwr agoriadol llaw chwith dros Forgannwg rhwng 1957 a 1983, mae Jones yn cael ei ystyried yn un o’r chwaraewyr gorau na chafodd gap dros Loegr a fe, o blith chwaraewyr sydd heb gynrychioli Lloegr, sydd wedi sgorio’r nifer fwyaf o rediadau mewn gemau sirol.

Enillodd ei gap yn 1962.

Sgoriodd Jones 34,056 o rediadau dosbarth cyntaf a 7,420 o rediadau mewn gemau undydd, ac fe gyflawnodd y gamp o sgorio 1,000 o rediadau mewn tymor 23 o weithiau. Tarodd 56 canred yn ystod ei yrfa, yr ail fwyaf ymhlith chwaraewyr sydd heb chwarae criced rhyngwladol.

Mae’n rhannu’r record am y nifer o ganrediadau i Forgannwg gyda’r Prif Weithredwr presennol Hugh Morris.

Roedd yn aelod o dîm Morgannwg a gododd dlws Pencampwriaeth y Siroedd yn 1969, ac yn gapten yn ystod tymhorau 1977 a 1978.

Cafodd ei enwi’n un o bump chwaraewr gorau Wisden yn 1978 yn sgil ymddangosiad Morgannwg yn rownd derfynol Cwpan Gillette yn Lord’s yn 1977.

Daeth ei yrfa fel chwaraewr i ben ar ddiwedd tymor 1983, ac fe gafodd ei benodi’n Brif Hyfforddwr y sir, gan symud ymlaen yn ddiweddarach i fod yn Gyfarwyddwr Hyfforddi cyn ymddeol yn 1998.

Mae’n parhau i hyfforddi Cymru dan 11.

Fe fu hefyd yn un o sylwebyddion S4C pan gafodd gemau ugain pelawd eu darlledu ar ddechrau’r degawd hwn.

‘Arwr’

Dywedodd Cadeirydd Clwb Criced Morgannwg, Barry O’Brien: “Mae Alan Jones yn un o arwyr y clwb a chriced yng Nghymru, felly alla i ddim meddwl am unrhyw un gwell i olynu David [Morgan].

“Mae Alan yn un o’r chwaraewyr gorau i chwarae dros Forgannwg ac rydym yn edrych ymlaen at gydweithio ag e fel Llywydd y Clwb yn ystod cyfnod pwysig yn natblygiad y clwb.”

Ychwanegodd David Morgan: “Alan yw’r person delfrydol i’m holynu ac rwy wrth fy modd ei fod e wedi derbyn y gwahoddiad.”

Yn ystod y Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol, dywedodd Hugh Morris: “Mae Alan Jones yn arwr i ni gyd. Fe dreuliais i ddau dymor fel chwaraewr ifanc yn ei wylio fe yn y rhwydi.”