Yr olaf o griw Morgannwg a gipiodd dlws Pencampwriaeth y Siroedd yn 1948 (Llun: Clwb Criced Morgannwg)
Mae teyrngedau wedi’u rhoi i gyn-gricedwr Morgannwg, Jim Pleass, sydd wedi marw’n 92 oed.

Ef oedd yr aelod olaf o dîm Morgannwg a enillodd Bencampwriaeth y Siroedd yn 1948, y tro cyntaf erioed i’r sir gipio’r tlws hwnnw.

Roedd Pleass yn bêl-droediwr dawnus ac fe gafodd dreial gyda Chaerdydd cyn troi ei sylw at griced.

Yn ystod yr Ail Ryfel Byd, roedd yn un o’r miloedd a gymerodd ran yng nglaniadau Normandi yn 1944, ac fe oroesodd ymosodiad yn ystod y cyfnod hwnnw.

Yn dilyn llwyddiant Morgannwg yn 1948, roedd Pleass yn aelod o’r tîm a drechodd Dde Affrica yn 1951 yn Abertawe, gan adeiladu partneriaeth fuddugol gyda’r capten Wilf Wooller, ac yn aelod o’r tîm a sicrhaodd eu buddugoliaeth gyntaf oddi cartref dros Swydd Efrog yn 1955.

Yn ystod ei yrfa, fe gafodd ganmoliaeth fel maeswr agos dawnus.

Wedi iddo ymddeol, fe barhaodd yn gricedwr gyda Chaerdydd, ac fe ddaeth yn aelod o Bwyllgor ac yn rheolwr Clwb Criced Morgannwg.

Yn ystod y 1980au, roedd yn un o sylfaenwyr Cymdeithas Cyn-chwaraewyr Morgannwg.

‘Gŵr bonheddig a dyn hyfryd’

Wrth dalu teyrnged i Jim Pleass, dywedodd Prif Weithredwr Clwb Criced Morgannwg, Hugh Morris: “Roedd Jim yn ŵr bonheddig go iawn ac yn ddyn hyfryd a oedd, dros chwedeg o flynyddoedd wedi iddo fod yn rhan o’r tîm enwog hwnnw a gododd dlws y sir yn 1948, yn parhau i siarad ag angerdd a balchder mawr o fod yn rhan o dîm buddugol cyntaf Morgannwg yn y Bencampwriaeth.

“Roedd Jim yn ymgorffori popeth sy’n dda am y clwb ac roedd gwres yr atgofion a rannodd mor garedig, fel aelod pwyllgor ac ysgrifennydd bywiog Cymdeithas Cyn-chwaraewyr Morgannwg, wedi fy ysbrydoli i a nifer o aelodau eraill staff y sir yn ystod y 1980au a’r 1990au.”