Mae bowliwr cyflym newydd Morgannwg, Timm van der Gugten wedi’i gynnwys yng ngharfan yr Iseldiroedd ar gyfer Cwpan T20 y Byd yn India ym mis Mawrth.

Daeth cadarnhad yr wythnos hon fod van y bowliwr cyflym 24 oed wedi symud i Forgannwg ar gytundeb tair blynedd.

Mae’r Iseldiroedd wedi cael cryn lwyddiant yn y gystadleuaeth yn y gorffennol, gan guro Lloegr yn 2009, a chyrraedd y 10 olaf a churo Lloegr yn 2014 wedi iddyn nhw guro Iwerddon.

Bydd yr Iseldiroedd yn herio Bangladesh, Iwerddon ac Oman y tro hwn, gan obeithio gorffen ar frig y tabl er mwyn herio India, Awstralia, Seland Newydd a Phacistan yn y 10 olaf.

Maen nhw’n dechrau’r gystadleuaeth yn erbyn Bangladesh yn Dharamsala ar Fawrth 9.