Ac yntau newydd symud i Forgannwg o Wlad yr Haf yn barhaol, mae’r chwaraewr amryddawn Craig Meschede, sy’n enedigol o Dde Affrica, wedi dweud ei fod yn awyddus i gynrychioli Lloegr yn y dyfodol agos.

Tarodd Meschede ei ganred dosbarth cyntaf i’r sir y tymor diwethaf, ac fe chwaraeodd bob diwrnod o griced ond un ym mhob fformat.

Dywedodd: “Tua diwedd y tymor diwethaf ro’n i wedi blino cymaint, felly bydd fy meddylfryd eleni’n gryfach ac rwy’n gwybod beth i’w ddisgwyl, felly galla i fod yn fwy cyson yn ystod ail hanner y tymor.

“Os galla i gael sawl canred ar y bwrdd a chipio rhagor o wicedi yna dw i’n sicr y galla i fod yng ngharfan Llewod Lloegr neu’r Rhaglen Berfformio ar ddiwedd y flwyddyn.”

Roedd y sicrwydd o chwarae yn nhîm cyntaf Morgannwg yn ddigon i’w ddenu o Wlad yr Haf, lle bu’n chwarae ers wyth tymor.

“Roedd yn benderfyniad anodd wedi i fi fod yng Ngwlad yr Haf am wyth mlynedd ac wedi i fi fod i ffwrdd o ‘nghartref yn Ne Affrica, roedden nhw’n agos iawn at fy nghalon ac felly roedd yn benderfyniad anodd i’w wneud.

“Roeddwn i’n gyfforddus yno (yng Ngwlad yr Haf) ac roedd gen i ddigon o gefnogaeth, ond un o’r pethau wnaeth ddylanwadu fwyaf oedd y cyfle i chwarae y tu hwnt i’r hyn oedd yn gyfforddus i fi’r tymor diwethaf ar fenthyg gyda Morgannwg.

“Ro’n i wrth fy modd mewn amgylchfyd gwahanol a chael bod yng Nghaerdydd, gan ymgartrefu’n wych gyda’r bois ac yn y pen draw, roedd faint o griced fyddwn i’n chwarae wedi effeithio ar y penderfyniad.”

Bydd cyfle i Meschede serennu pan fydd Morgannwg yn mynd ar daith baratoadol am y tro cyntaf ers 2012.

Ychwanegodd Meschede: “Mae’n debyg ein bod ni’n mynd i Dessert Springs yn Sbaen a dyma fydd fy nhro cyntaf yno, felly dw i ddim yn gwybod llawer am y cyfleusterau, ond dw i wedi cael ar ddeall eu bod nhw’n dda iawn felly dw i’n edrych ymlaen yn fawr ati.”