Gohebydd Golwg360, Alun Rhys Chivers sy’n dadlau pam mai Robert Croft ddylai gael ei benodi’n Brif Hyfforddwr newydd Clwb Criced Morgannwg yn dilyn ymadawiad Toby Radford y llynedd

Misoedd segur fel arfer yw’r rheiny rhwng Medi ac Ebrill i gefnogwyr criced sirol yng Nghymru a Lloegr. Ond prin roedden ni wedi gorffen ein llwyaid olaf o bwdin Nadolig yn 2015 pan ddaeth y newyddion am ymadawiad Prif Hyfforddwr Morgannwg, Toby Radford. Go brin fod chwilio am Brif Hyfforddwr newydd ar restr addunedau Blwyddyn Newydd Hugh Morris!

Ond dyna sydd wedi digwydd i’r Prif Weithredwr wrth i Forgannwg baratoi ar gyfer y bennod nesaf yn eu hanes. Doedd neb, am wn i, wedi rhagweld y byddai’n rhaid i’r sir fynd yn ôl i’r dechrau’n deg yn y gobaith o allu dod o hyd i olynydd i Radford, i adeiladu ar y gwaith cadarnhaol a wnaed ganddo fe dros y ddau dymor diwetha.

Blynyddoedd Radford

Roedd penodiad Radford cyn dechrau tymor 2014 yn cael ei ystyried yn ddechrau cyfnod newydd yn hanes Morgannwg – gan ddechrau o’r dechrau yn dilyn degawd cythryblus i’r sir, a ddaeth i fwcwl gydag ymadawiad y Cyfarwyddwr Criced Matthew Maynard, y capten Jamie Dalrymple a’r llywydd Peter Walker yn 2010. Roedd cyfnod olynydd Maynard, yr Awstraliad Matthew Mott wrth y llyw yn un anodd â bod yn deg iddo. Go brin y byddai’n llwyddo yng nghysgod un o hoelion wyth y sir ers chwarter canrif.

Ond â’r bennod honno wedi’i gwthio i’r gorffennol pell gyda phenodi’r cyn-gapten Hugh Morris yn Brif Weithredwr a Radford, a fagwyd yn Newbury ond a aned yng Nghaerffili, yn Brif Hyfforddwr, roedd ysbryd o Gymreictod a balchder yn perthyn i Forgannwg unwaith eto. Rhaid i fi gyfadde nad o’n i’n ffyddiog y byddai Radford yn llwyddo i weddnewid degawd llwm. Ond mae’r perfformiadau wedi gwella’n raddol o dan ei arweiniad ac yn bwysicaf oll, mae Radford wedi meithrin doniau nifer o Gymry ifainc – Aneurin Donald a David Lloyd yw’r amlycaf ohonyn nhw – a fydd, gobeithio, yn cynnal y tîm am genhedlaeth.

Fe fu nifer yn feirniadol o’r holl dramorwyr a Saeson fu’n cynrychioli’r sir yn ddiweddar. Y gwir amdani yw fod llai ohonyn nhw, diolch byth, nag a fu yn ystod y degawd ansefydlog. Yn absenoldeb digon o gricedwyr da o Gymru, rhaid oedd dibynnu ar y rheiny o’r tu draw i’r ffin ac o dramor i gynnal y tîm mewn cyfnod ansicr. Hyd yn oed wedyn, doedd y rhan fwyaf o’r garfan – Cymry neu beidio – ddim yn ddigon da i wisgo’r crys.

Erbyn hyn, mae’r Saeson a’r tramorwyr yn y tîm yn llwyr haeddu eu lle – Rudolph, Wagg, Meschede, Hogan a mwy. Byddai unrhyw un o’r deunaw sir yn ffodus o’u cael nhw. Ond yn bwysicaf oll, mae angen y chwaraewyr o’r tu allan er mwyn datblygu Cymry’r sir, a diolch byth bod digon ohonyn nhw i’w dewis bob yn dipyn yn y tîm cynta.

Tîm cyfan o Gymry?

Er mwyn dewis tîm sydd i gyd yn Gymry – damcaniaeth a glywais droeon – fe fyddai’n rhaid dewis chwaraewyr nad ydyn nhw eto wedi profi eu bod nhw’n haeddu cyfle yn y tîm cynta. Byddai’n rhaid derbyn y byddai adeiladu tîm o 11 o Gymry’n brosiect tymor hir ac y byddai angen tipyn o amynedd am rai tymhorau! Byddai’r perfformiadau tymor byr yn llai pwysig na sicrhau dyfodol sefydlog, ac fe gafodd y farn honno’i hategu gan y cyn-hyfforddwr Alan Jones y tymor diwetha.  Yn bwysicaf oll, byddai’n rhaid sicrhau bod llwybrau datblygu yn eu lle er mwyn cynnal y llif o chwaraewyr Cymreig dros gyfnod hir o amser.

Y cyfuniad o Gymry profiadol ac ifainc arweiniodd at lwyddiant Morgannwg wrth iddyn nhw godi tlws Pencampwriaeth y Siroedd yn 1997. Yn arwyddocaol, un Sais – Steve James – ac un o Bacistan, Waqar Younis – oedd yn y tîm hwnnw, ond roedd hyd yn oed hwnnw’n Gymro anrhydeddus yn y pen draw, chwedl y gân ‘Waqar is a Welshman’! Dyna’r ysbryd sy’n ennill tlysau. Roedd sylweddoliad mai cenedligrwydd oedd y glud oedd yn clymu’r tîm ynghyd o dan arweiniad y prif hyfforddwr, Duncan Fletcher, oedd yn gwerthfawrogi’r Cymreictod hwnnw er ei fod yn hanu o Zimbabwe. Pan oedd e’n hyfforddwr ar dîm Lloegr yn ddiweddarach, fe ddywedodd Fletcher na ddylai tramorwr fod yn gapten, yn droellwr nac yn wicedwr mewn unrhyw dîm. Pwy a ŵyr, efallai bod ei gyfnod wrth y llyw ym Morgannwg wedi dylanwadu ar ei farn. Ond wnaeth e ddim dweud unrhyw beth tebyg am hyfforddwyr – byddai hynny’n gyfystyr â thwrci’n hyrwyddo’r Nadolig!

Beth nesaf i Forgannwg? 

Gwnaeth aelod o garfan Morgannwg yn 1997 ddatgan yn ddiweddar yr hoffai weld Cymro’n cael ei benodi’n brif hyfforddwr unwaith eto i adeiladu ar waith y Cymro Radford, gan mai tramorwr – er gwaetha barn Fletcher – yw’r  capten. Y capten hwnnw, wrth gwrs, yw Jacques Rudolph a ddisodlodd Mark Wallace, y wicedwr o Went. Er ‘mod i’n siomedig pan gollodd Wallace y gapteniaeth, dw i ddim yn gwrthwynebu’r egwyddor o benodi tramorwr yn gapten. Yn wir, mae Rudolph yn arwain drwy esiampl ac mae ei berfformiadau dros y tymhorau diwetha wedi bod yn gampus.  Yn 1997, un a gafodd ei fagu a’i addysgu ym Mhorthaethwy oedd y capten, Matthew Maynard, a’r hyfforddwr Fletcher yn dramorwr. Efallai bod fformiwla o’r fath yn haeddu ystyriaeth ofalus gan y panel fydd yn penodi’r tro hwn.

Er mai prin yw’r sïon ynghylch pwy sydd ar y rhestr fer ar gyfer swydd y Prif Hyfforddwr, i fi, Robert Croft – Cymro i’r carn, Cymro Cymraeg ac aelod o’r Orsedd – yw’r dyn delfrydol i arwain Clwb Criced Morgannwg y tymor nesa. Fe wnaeth e gais am y swydd pan benodwyd Radford. Roedd hi’n rhy gynnar iddo bryd hynny, o bosib, ond mae ei brofiad dros y tymhorau diwetha gyda’r tîm cynta – a bellach gyda thîm undydd Lloegr – wedi rhoi’r sgiliau a’r galluoedd perthnasol iddo fe fod ymhlith yr ymgeiswyr cryfa’r tro hwn. Mae’r is-hyfforddwr arall, Steve Watkin eisoes wedi datgan nad yw e’n bwriadu gwneud cais am y swydd. Fe gawn ni wybod o fewn wythnos pwy fydd wrth y llyw yn 2016.