Mae Morgannwg wedi arwyddo Craig Meschede o Wlad yr Haf yn barhaol.

Treuliodd y chwaraewr amryddawn y tymor diwethaf ar fenthyg gyda Morgannwg, gan greu argraff ym mhob cystadleuaeth, ac mae e wedi arwyddo cytundeb tair blynedd gyda’r Cymry.

Fe darodd ei ganred cyntaf i’r sir yn y Bencampwriaeth yn erbyn Swydd Surrey yng Nghaerdydd, a’i ail yn erbyn Swydd Northampton.

Roedd ei fatio cadarn ac ymosodol yn ddigon i ddarbwyllo’r dewiswyr i’w ddewis fel batiwr agoriadol yng nghystadleuaeth ugain pelawd y T20 Blast.

Cafodd ei berfformiadau eu cydnabod gan y clwb ddiwedd y tymor diwethaf wrth iddo gael ei gynnwys ar y rhestr fer ar gyfer Chwaraewr y Flwyddyn yn y Bencampwriaeth.

Mewn datganiad, dywedodd prif weithredwr Morgannwg, Hugh Morris: “Chwaraeodd Craig ran bwysig yn ein tîm y tymor diwethaf ac er ein bod ni’n awyddus i’w gadw, roedd unrhyw gytundeb yn ddibynnol ar ganiatâd Gwlad yr Haf gan fod ganddo fe flwyddyn yn weddill o’i gytundeb.

“Rydym wrth ein bodd o fod wedi cwblhau’r cytundeb ac yn credu ein bod ni wedi arwyddo chwaraewr sy’n ychwanegu tipyn i’r tîm ac mae ganddo fe’r potensial i ddatblygu ymhellach.”

Ychwanegodd Craig Meschede: “Fe fu hwn yn benderfyniad anodd gan fod Clwb Criced Gwlad yr Haf wedi bod yn rhan anferth o’m bywyd.

“Hoffwn ddiolch i Wlad yr Haf am yr wyth mlynedd diwethaf; fe fu’n fraint ac yn bleser cael cynrychioli’r clwb.

“Cael chwarae i Forgannwg sy’n cynnig y cyfle gorau i fy nghriced ar yr adeg hon yn fy ngyrfa.

“Wnes i wir fwynhau fy nghyfnod gyda’r clwb y llynedd ac roedd pawb mor groesawgar, felly rwy’n edrych ymlaen at ddychwelyd yn barhaol a byddaf yn ceisio gwella ar fy mherfformiadau’r llynedd.”

‘Diolchgar’

Mewn datganiad ar ei dudalen Twitter, ychwanegodd Craig Meschede: “Hoffwn ddiolch i holl chwaraewyr a staff presennol Gwlad yr Haf a rhai’r gorffennol a hefyd i gefnogwyr Gwlad yr Haf am eu cefnogaeth yn ystod fy ngyrfa fel chwaraewr gyda Gwlad yr Haf.

“Fe fu’n wyth mlynedd anhygoel gyda’r clwb hwn ac rwy’n mynd â chymaint o atgofion, sawl cyfeillgarwch a phrofiadau  gwych gyda fi.

“Dydy e ddim wedi bod yn benderfyniad hawdd ond rwy’n teimlo ar yr adeg hon yn fy ngyrfa fod rhaid i fi chwarae criced tîm cyntaf yn rheolaidd, ac rwy’n ddiolchgar iawn am y cyfle mae Morgannwg wedi’i roi i fi.

“Rwy’n edrych ymlaen yn fawr at fod yn chwaraewr Morgannwg a chyfrannu cymaint ag y gallaf, gobeithio, dros y blynyddoedd nesaf.

“Gwnes i fwynhau fy mlwyddyn ar fenthyg y tymor diwethaf ac rwy’n gyffro i gyd am gael ymuno â’r tîm unwaith eto yn llawn amser.

“Bydd Clwb Criced Gwlad yr Haf bob amser yn agos at fy nghalon, ac mae’n glwb anhygoel gyda phobol wych.

“Dymunaf yn dda i’r bois ac i’r staff am y tymor i ddod.”