Fe fydd tîm criced Morgannwg a enillodd Bencampwriaeth y Siroedd yn 1997 yn dod at ei gilydd unwaith eto eleni fel rhan o ddigwyddiad blynyddol er cof am Tom Maynard.

Daw’r cyhoeddiad ddeuddydd ar ôl i ddau aelod o’r garfan, Adrian Shaw a Darren Thomas gymryd rhan mewn noson arbennig yn yr Amgueddfa Griced yn y Swalec SSE yn hel atgofion am y tymor hwnnw.

Tad Tom, Matthew Maynard oedd capten y tîm a gododd y tlws yn Taunton 19 o flynyddoedd yn ôl.

Ers marwolaeth Tom yn 2012, mae digwyddiad blynyddol wedi cael ei gynnal er cof amdano yng Nghlwb Criced Sain Ffagan, lle dysgodd ei grefft cyn ymuno â Morgannwg.

Bydd y digwyddiad yn cael ei gynnal ar Awst 19 eleni, a’r gobaith yw y bydd Waqar Younis, cyn-fowliwr a hyfforddwr presennol Pacistan, ar gael gan y bydd ei dîm ar daith i Gymru a Lloegr dros yr haf.

Mae Matthew Maynard hefyd yn gobeithio y bydd hyfforddwr Morgannwg yn 1997, Duncan Fletcher ar gael i deithio o Dde Affrica i Gymru ar gyfer yr achlysur.

Bydd gêm 20 pelawd yn cael ei chynnal ar y diwrnod rhwng tîm Sain Ffagan a thîm Matthew Maynard, cyn i rai o garfan ’97 gymryd rhan mewn sesiwn holi ac ateb.

Yn dilyn y cyhoeddiad, dywedodd Matthew Maynard: “Fe siaradon ni am hyn cyn y Nadolig ac roedden ni’n meddwl ei bod hi’n werth checio bod pawb ar gael oherwydd gan fod Pacistan ar daith i’r DU, roedd siawns go dda y byddai Waqar Younis o gwmpas, oedd yn cynnig cyfle gwych i ni roi cynnig arni.

“Rwy wrth fy modd fod pawb wedi cytuno i ymrwymo i hyn ac i helpu’r Ymddiriedolaeth ar yr un pryd. Fe fydd yn ychwanegu sbeis at yr hyn sydd eisoes yn ddiwrnod arbennig.”

Carfan 1997:  Gary Butcher, Dean Cosker, Tony Cottey, Robert Croft, Adrian Dale, Alun Evans, Steve James, Matthew Maynard, Hugh Morris, Michael Powell, Adrian Shaw, Darren Thomas, Steve Watkin, Waqar Younis. Hyfforddwr: Duncan Fletcher