Llun: Clwb Criced Morgannwg
Graham Wagg sydd wedi’i enwi’n Chwaraewr y Flwyddyn 2015 gan Glwb Criced Morgannwg ac Orielwyr San Helen.

Cafodd y tlws ei gyflwyno i Wagg, 32, gan un o fawrion y sir, Don Shepherd, yn ystod noson wobrwyo yng ngwesty’r Towers ar gyrion Abertawe nos Lun.

Sgoriodd Wagg 1160 o rediadau a chipiodd 60 o wicedi ym mhob cystadleuaeth, gan gynnwys 842 o rediadau dosbarth cyntaf.

Uchafbwynt ei dymor oedd taro 200 yn erbyn Swydd Surrey yn Guildford, pan dorrodd y record am y nifer fwyaf o ergydion am chwech (11) mewn batiad gan un o fatwyr Morgannwg. Y record flaenorol oedd naw gan Malcolm Nash yn 1973.

Hefyd ar y rhestr fer ar gyfer Chwaraewr y Flwyddyn roedd y bowliwr cyflym Michael Hogan a’r batiwr llaw chwith Colin Ingram.

Hon oedd ail wobr Wagg, wedi iddo gael ei enwi’n Chwaraewr y Flwyddyn yn y Bencampwriaeth, gan guro Michael Hogan a Craig Meschede.

David Lloyd

Roedd dwy wobr hefyd i’r chwaraewr amryddawn o Lanelwy, David Lloyd, wrth iddo ennill gwobrau Chwaraewr Ifanc y Flwyddyn a’r chwaraewr heb gap sydd wedi gwella fwyaf yn ystod y tymor.

Penllanw’r tymor i’r chwaraewr 23 oed oedd taro 94 oddi cartref yn erbyn Swydd Northampton yn y Bencampwriaeth ar ddiwedd y tymor, gan ddod o fewn trwch blewyn o daro’i ganred cyntaf i’r sir.

Gwobrau Undydd

Ingram yntau gafodd ei enwi’n Chwaraewr Rhestr A y Flwyddyn, a hynny am sgorio 405 o rediadau yng nghystadleuaeth 50 pelawd Royal London. Fe darodd dri chanred yn y gystadleuaeth – yn erbyn Swydd Gaint, Swydd Essex a Swydd Middlesex.

Capten Morgannwg, Jacques Rudolph enillodd y wobr am Chwaraewr T20 y Flwyddyn wedi iddo sgorio 461 o rediadau, gan gynnwys ei gyfanswm unigol gorau erioed mewn ugain pelawd o 101 yn erbyn Swydd Gaerloyw ym Mryste, a thri hanner canred.

Chwaraewyr ifainc

Y batiwr 18 oed o Abertawe, Aneurin Donald gipiodd wobr Chwaraewr Ail Dîm y Flwyddyn a hynny’n bennaf am iddo daro 240 yn erbyn Swydd Gaerloyw ym Mhanteg, y trydydd sgôr unigol gorau erioed gan un o chwaraewyr ail dîm Morgannwg.

Wrth sgorio 98 yn erbyn Swydd Gaerloyw yn ystod gêm Bencampwriaeth ola’r tymor ym Mryste, syrthiodd Donald ddau rediad yn brin o dorri record Matthew Maynard, y chwaraewr ieuengaf i sgorio canred i Forgannwg.

Wrth gydnabod chwaraewyr gorau’r Academi, cafodd gwobrau eu rhoi i Tom Murphy, chwaraewr mwyaf addawol yr Academi, a Kiran Carlson, chwaraewr gorau’r Academi.

Uwch Gynghrair De Cymru

Roedd cydnabyddiaeth arbennig ar y noson i dimau criced De Cymru, gan gynnwys pencampwyr Adran Gyntaf yr Uwch Gynghrair, Pen-y-bont ar Ogwr.

Abertawe ddaeth i frig Ail Adran yr Uwch Gynghrair, a chafodd gwobrau eu rhoi i’r pencampwyr ail dîm, Caerdydd (Dwyrain) a Phort Talbot (Gorllewin).

Crwydriaid Caerfyrddin enillodd y wobr Chwarae Teg a derbyniodd Ynysygerwn wobr am fod yn bencampwyr T20.

Cyfraniadau arbennig

Enillydd Gwobr Goffa Byron Denning oedd ffisiotherapydd y clwb, Mark Rausa. Mae’r wobr yn cael ei rhoi’n flynyddol er cof am ddiweddar sgôr-geidwad y sir, fu farw yn 2001.

I gydnabod ei gyfraniad i’r sir, derbyniodd trysorydd Orielwyr San Helen, Clive Hemp Aelodaeth Oes Er Anrhydedd o Glwb Criced Morgannwg.

Yn ogystal ag enillwyr y prif wobrau, roedd cydnabyddiaeth hefyd i is-gapten y sir, Mark Wallace am sgorio 10,000 o rediadau dosbarth cyntaf ac am gipio 1,000 o ddaliadau a stympiadau – ail wicedwr y sir ar ôl Eifion Jones i gyrraedd y garreg filltir.

Yn ystod y tymor, cipiodd Dean Cosker 4-25 yn erbyn Swydd Surrey yn y T20 – ei ffigurau bowlio gorau erioed, ac roedd ymddangosiad fel deuddegfed dyn Lloegr yn erbyn Awstralia yng Nghyfres y Lludw’n gydnabyddiaeth o’i sgiliau fel maeswr.

Codi arian

Ar y noson, cafodd £20,000 ei roi gan Orielwyr San Helen i Glwb Criced Morgannwg fel rhan o’r cytundeb i gynnal gemau Morgannwg bob blwyddyn yn Abertawe.

Yn dilyn ymdrechion i godi arian at achosion da, cyflwynodd yr Orielwyr £1,500 i Uned Wrolegol Ysbyty Treforys, a £400 i Ymddiriedolaeth Tom Maynard.