Fe fydd y batiwr 19 oed o Sain Ffagan, Jeremy Lawlor yn ymddangos yng nghrys Morgannwg am y tro cyntaf wrth i’r Cymry herio Swydd Gaint yn Stadiwm Swalec yn y Bencampwriaeth ddydd Mercher.

Cafodd Lawlor ei gynnwys yn y garfan ar gyfer dwy gêm yng nghwpan 50 pelawd Royal London fis diwethaf, ond ni chafodd gyfle i chwarae.

Un arall sy’n dychwelyd i’r garfan yw’r batiwr agoriadol James Kettleborough.

Dywedodd prif hyfforddwr Morgannwg, Toby Radford: “Ry’n ni’n mynd i ddod â nifer o chwaraewyr ifanc i mewn, gan gynnwys Jeremy Lawlor, sy’n cael ei flas cyntaf ar griced tîm cyntaf ar ôl sgorio rhediadau tua diwedd y tymor, ac fe fydd cyfle arall i James Kettleborough oedd wedi chwarae criced tîm cyntaf ddechrau’r flwyddyn, a hynny ar ôl chwarae criced undydd yn ddiweddar.”

Daw’r batiwr ifanc o Abertawe, Aneurin Donald i mewn i’r garfan ar ôl bod yn arwain tîm dan 19 oed Lloegr yn erbyn Awstralia.

Ychwanegodd Radford: “Ry’n ni hefyd wrth ein bodd o gael Aneurin yn ôl ar ôl bod i ffwrdd yn arwain tîm undydd Lloegr felly fe fydd e’n dychwelyd i ganol y rhestr fatio gyda ni.

“Ry’n ni’n cefnogi’r chwaraewyr ifainc hyn ac yn credu eu bod nhw’n chwaraewyr o safon felly ry’n ni am iddyn nhw fynd allan a dangos i ni beth maen nhw’n gallu ei wneud.”

Bydd y wicedwr Mark Wallace yn gapten ar y tîm yn absenoldeb Jacques Rudolph, sydd wedi dychwelyd i Dde Affrica ar gyfer genedigaeth ei blentyn.

Meddai Radford: “Mae Mark Wallace wedi bod yn gapten yma am nifer o flynyddoedd ac yn is-gapten i Jacques drwy gydol y tymor. Mae e wedi cydweithio’n agos â Jacques felly fe yw’r dewis amlwg i fod yn gapten tra bod Jacques i ffwrdd.”

Anafiadau

Ymhlith y chwaraewyr sydd allan o’r garfan ar hyn o bryd yw’r troellwr ifanc Kieran Bull a’r chwaraewr amryddawn Ruaidhri Smith.

Mae gan Smith anaf i’w droed, tra bod pryderon am Bull ar ôl iddo dorri asgwrn yn ei gefn.

Wrth drafod anaf Bull, dywedodd Toby Radford: “Fe fydd yn cymryd ychydig fisoedd i roi trefn arno wrth i’n staff meddygol asesu sut y digwyddodd a sut mae symud ymlaen o fan hyn.

“Mae e’n droellwr ifanc o safon uchel ac mae’n beth prin iawn i droellwr dorri asgwrn felly ry’n ni’n ceisio datrys y peth.”

Wrth i obeithio Morgannwg o sicrhau dyrchafiad bylu, mae’r chwaraewyr a’r hyfforddwyr yn awyddus o hyd i orffen y tymor yn y modd gorau posib.

Ychwanegodd Radford: “Mae balchder personol yn y fantol i ysgogi’n chwaraewyr a fel clwb, ry’n ni am fod yn y tri neu bedwar uchaf ar ddiwedd y tymor oherwydd dyna un o’r nodau wnaethon ni eu gosod.

“Er cymaint y bydden ni’n hoffi cael dyrchafiad, dydy hynny ddim yn mynd i ddigwydd eleni, ond ry’n ni hefyd ar lwybr datblygu i’r clwb ac ry’n ni a, barhau i symud ymlaen, a felly hefyd y chwaraewyr gyda’u targedau unigol eu hunain, felly mae popeth i chwarae amdano.”

Tîm Morgannwg: J Lawlor, J Kettleborough, D Lloyd, C Ingram, C Cooke, A Donald, M Wallace (capten), G Wagg, C Meschede, A Salter, M Hogan

Carfan 12 dyn Swydd Gaint: S Northeast (capten), D Bell-Drummond, R Key, J Denly, S Dickson, D Stevens, R Davies, C Haggett, M Coles, M Hunn, Imran Qayyum, A Riley.