Doedd 90 gan gapten Awstralia, Steve Smith ddim yn ddigon i sicrhau’r fuddugoliaeth, wrth i Loegr ennill yr ornest yn y Swalec SSE yng Nghaerdydd o bump o rediadau.

David Willey oedd bowliwr gorau Lloegr wrth iddo gipio dwy wiced am 34, ond partneriaeth o 135 rhwng Eoin Morgan (74) a Moeen Ali (72 heb fod allan) oedd wedi sicrhau’r fuddugoliaeth i Loegr yn y pen draw.

Dechrau digon siomedig gafodd Awstralia i’r ornest wrth i Mitchell Starc fowlio tair pelen lydan yn ei belawd gyntaf.

Ond 3.3 o belawdau’n unig gymerodd hi iddyn nhw gipio’u wiced gyntaf, wrth i Pat Cummins faglu Alex Hales gyda phelen gymharol lawn a’i fowlio oddi ar ei goes.

Dilynodd Jason Roy yn dynn ar sodlau Hales, wrth iddo yntau ergydio’n uchel i’r awyr a darganfod dwylo Nathan Coulter-Nile ar ymyl y cylch, a Lloegr yn llithro i 18-2.

Roedd Lloegr wedi ymadfer rywfaint erbyn diwedd y cyfnod clatsio, wrth i’r capten Eoin Morgan a Moeen Ali eu harwain i 27-2 ar ôl chwe phelawd.

Partneriaeth o 135 oddi ar 75 o belenni gafodd Morgan ac Ali yn y pen draw, cyn i Morgan gael ei ddal gan Shane Watson oddi ar fowlio Nathan Coulter-Nile am 74. Roedd ei fatiad yn cynnwys tri phedwar a saith chwech oddi ar 39 o belenni.

Yn ystod y bartneriaeth, tarodd y ddau 100 o rediadau oddi ar 8.4 o belawdau i osod y seiliau, ac roedd cyfanswm o 200 yn edrych yn bosibilrwydd cryf pan gollodd Morgan ei wiced.

Collodd Lloegr ddwy wiced arall ar ôl i’r bartneriaeth allweddol ddod i ben, wrth i Sam Billings gael ei redeg allan am ddau wedi i Jos Buttler gael ei ddal gan Pat Cummins oddi ar fowlio Mitchell Starc am 11.

Erbyn diwedd y batiad, roedd Moeen Ali heb fod allan ar 72 oddi ar 46 o belenni, ac roedd e wedi taro chwe phedwar a thri chwech.

Wrth ymateb, cafodd Awstralia’r dechrau gwaethaf posib wrth i David Willey gipio wiced David Warner am 4, y batiwr wedi’i ddal gan Steven Finn, ac Awstralia’n 4-1 ar ddiwedd y belawd gyntaf.

Tro’r daliwr oedd hi i gipio wiced yn ei belawd gyntaf yntau, wrth i Shane Watson stryffaglu i gicio’r bêl i ffwrdd o’r wiced, ond fe giciodd yr awyr yn unig a chael ei fowlio cyn cerdded i ffwrdd yn llawn embaras.

Bu bron i’r bowliwr cyflym llaw chwith Reece Topley gipio’i wiced gyntaf i Loegr yn ei belawd gyntaf, ond fe darodd Steve Smith y bêl yn syth dros ben David Willey ar ymyl y cylch am bedwar.

Roedd Awstralia’n 45-2 ar ddiwedd y cyfnod clatsio, o’i gymharu â Lloegr oedd yn 27-2 ar yr un adeg yn eu batiad nhw ac fe gyrhaeddon nhw’r hanner cant yn y seithfed pelawd, ddwy belawd yn gynt na Lloegr.

Roedd Steve Smith a Glenn Maxwell wedi adeiladu partneriaeth o hanner cant oddi ar eu 35 o belenni cyntaf wrth i Awstralia gyrraedd 64-2 ar ôl wyth pelawd.

Erbyn hanner ffordd trwy’r batiad, roedd Awstralia’n 86-2, ac roedd angen 97 arnyn nhw oddi ar ail hanner y batiad i sicrhau’r fuddugoliaeth.

29 o belenni gymerodd hi i Awstralia fynd o’r hanner cant i’r cant ac fe gyrhaeddon nhw’r garreg filltir oddi ar 67 o belenni cynta’r batiad, wrth iddyn nhw daro 12 pedwar a thri chwech.

Y garreg filltir nesaf oedd hanner canred Steve Smith, a hynny oddi ar 30 o belenni mewn batiad a oedd, hyd yn hyn, wedi cynnwys pum pedwar a dau chwech.

Ond daeth partneriaeth o 112 rhwng Maxwell a Smith i ben wrth i Ben Stokes gipio daliad gorau’r ornest, wrth redeg i’w dde cyn plymio i’r ddaear a dal ei afael ar y bêl yn ddwfn ar ochr y goes.

Gyda phum pelawd yn weddill, roedd yr ornest yn agosach nag y bu hi drwyddi draw, ac roedd angen 49 ar Awstralia oddi ar 30 o belenni i sicrhau’r fuddugoliaeth.

Daeth wiced bwysig i Loegr yn y ddeunawfed belawd, wrth i Reece Topley fowlio Mitchell Marsh i gipio’i wiced rhyngwladol gyntaf, ac Awstralia’n 161-4.

Doedd hi ddim yn hir cyn i Loegr gipio’u pumed wiced, wrth i Steve Smith ddarganfod dwylo Sam Billings oddi ar fowlio Willey am 90. Roedd ei fatiad yn cynnwys saith pedwar a phedwar chwech oddi ar 53 o belenni.

Pan ddaeth pedair pelawd Willey i ben, roedd e wedi bowlio pedair pelawd gan gipio 2-34.

Cafodd Matthew Wade a Nathan Coulter-Nile eu rhedeg allan yn y belawd olaf i gau pen y mwdwl ar yr ornest, a Lloegr yn ennill o bump o rediadau.

Ymateb

Ar ddiwedd yr ornest, dywedodd capten Lloegr, Eoin Morgan: “Mae rhan ohono i’n siomedig na chawson ni 200.

Fe chwaraeon ni’n dda iawn yn y bartneriaeth rhyngof fi a Mo. Am wn i, fe wnaethon ni adeiladu’r seiliau. Ond dw i’n siomedig na wnaethon ni orffen yr hyn ddechreuon ni.”

Roedd Morgan yn barod i ganmol Ben Stokes am y ffordd yr aeth ati i roi’r pwysau ar Awstralia yn ystod pelawd ola’r ornest.

“Do’n i ddim wedi’i glustnodi fe ar ddechrau’r dydd cyn i’r ornest ddechrau fel yr un fyddai’n bowlio’r belawd olaf ond o ystyried y sefyllfa ar y pryd, roedd rhaid i ni ddefnyddio’n prif fowlwyr a symud yr ornest gymaint yn nes at ddiwedd yr ugain pelawd.”

Nid Eoin Morgan oedd yr unig un oedd yn barod i ganmol Lloegr, a’r gwahaniaeth rhwng safon batio Lloegr a bowlio Awstralia oedd yn allweddol i ganlyniad yr ornest, ym marn capten Awstralia, Steve Smith.

“Dw i’n credu eu bod nhw wedi chwarae’n hyfryd. Fe groeson nhw’r ffens dipyn a tharo nifer o ergydion i’r ffin, a dyna sydd ei angen arnoch chi yn y fformat yma. Roedd y rhan fwyaf ohonyn nhw’n ergydion criced da.

“Ond dw i ddim yn credu bod ein bowlwyr ni wedi mynd ati yn y modd y bydden ni wedi hoffi gwneud. Rhaid canmol Morgy [Eoin Morgan] a Moeen. Dw i’n credu eu bod nhw wedi cael batiad da yr un.”

O ran ei berfformiad ei hun, roedd Smith yn siomedig na lwyddodd i gyrraedd y canred i sicrhau’r fuddugoliaeth i Awstralia.

“Roedd yn braf cael nifer [o rediadau] heddiw. Byddai wedi bod yn braf cael canred heb fod allan… ond nid felly roedd pethau.”