Mae capten tîm criced ugain pelawd Lloegr, Eoin Morgan wedi dweud bod egwyl o’r tîm rhyngwladol wedi gwneud lles iddo.

Roedd y Gwyddel Morgan yn siarad ar drothwy’r ornest T20 ryngwladol yn erbyn Awstralia yn y Swalec SSE yng Nghaerdydd ddydd Llun.

Dydy Morgan ddim wedi chwarae mewn gêm gystadleuol ers Awst 1.

Cyn yr egwyl, roedd ganddo gyfartaledd o 26 gyda’r bat mewn gemau ugain pelawd, a dim ond 6.66 mewn gemau 50 pelawd.

Cyn hynny, roedd wedi arwain Lloegr yng Nghwpan y Byd yn Awstralia cyn teithio i India ar gyfer yr IPL.

Dywedodd Eoin Morgan mewn cynhadledd i’r wasg: “Wrth i fi eistedd yma nawr, dw i fwy na thebyg ddwywaith y dyn oeddwn i fis yn ôl oherwydd yr amserlen, natur brysur y cyfan, faint o griced ry’n ni’n ei chwarae ac ychydig iawn o amser i ffwrdd.

“Fe ddechreuais i gyda phythefnos i ffwrdd ond wedyn fe benderfynon ni, a fyddai chwarae un gêm cyn y gyfres undydd yn gwneud llawer iawn o wahaniaeth?

“Dywedais i ‘Na’, dw i ddim wedi chwarae ers pythefnos ac fe fyddai pythefnos arall i ffwrdd yn ddelfrydol, â bod yn onest.

“Dw i’n teimlo’n ffres iawn nawr. Mae fy agwedd, fy meddwl, fy nghorff lawer gwell nag yr oedden nhw fis yn ôl. Dw i’n barod amdani.”

Eglurodd Morgan mai gemau ugain pelawd yw’r flaenoriaeth i Loegr wrth iddyn nhw baratoi ar gyfer Cwpan y Byd ddechrau’r flwyddyn nesaf.

“Mae gyda ni garfan o chwaraewyr ry’n ni wedi’u gweld drwy gydol y gyfres undydd ddiwethaf yn erbyn Seland Newydd a dw i’n gobeithio y gallwn ni ychwanegu pump neu chwech o chwaraewyr eraill at y casgliad hwnnw y gallwn ni aros gyda nhw dros y ddwy neu dair blynedd i ddod er mwyn adeiladu rhywbeth.”

Bydd Lloegr ac Awstralia’n herio’i gilydd yn y Swalec SSE ddydd Llun am 3 o’r gloch.