Fe fydd dwy o gemau criced undydd Lloegr yn cael eu cynnal yn y Swalec SSE yng Nghaerdydd yn 2016, wrth iddyn nhw herio Pacistan a Sri Lanca.

Bydd yr ornest rhwng Lloegr a Sri Lanca yn cael ei chynnal ar Orffennaf 2, tra bydd Pacistan yn dod i Gaerdydd ar Fedi 4.

Fe fydd tocynnau ar gael i aelodau Clwb Criced Morgannwg o Fedi 16 ymlaen ac i’r cyhoedd yn gyffredinol ar Hydref 1.

Mae’r Prif Weithredwr Hugh Morris yn awyddus i fanteisio ar lwyddiant a phoblogrwydd Cyfres y Lludw eleni.

“Gwerthwyd pob tocyn ar gyfer ein dwy gêm rhyngwladol yn 2015 ac rydym yn edrych ymlaen at groesawu cefnogwyr yn ôl i Gaerdydd yn 2016.

“Rydym wrth ein bodd o gael cynnal dwy gêm dros benwythnosau a fydd yn goron ar bob cyfres.

“Mae Lloegr yn chwarae criced da ac fe fyddan nhw’n gweld y Lludw fel carreg gamu ar gyfer cyfnod o berfformiadau cyson.”