Mae cyn-gapten a hyfforddwr Clwb Criced Morgannwg, Alan Jones wedi galw ar ddewiswyr y sir i gynnwys rhagor o Gymry yn y tîm cyntaf.

Ar hyn o bryd, dim ond hanner y tîm a gafodd eu geni neu eu magu yng Nghymru.

Mae Morgannwg eisoes allan o’r T20 Blast a Chwpan Royal London i bob pwrpas, a gyda phwyslais nawr ar gynnal ffitrwydd y chwaraewyr profiadol wrth geisio dyrchafiad yn y gemau pedwar diwrnod, mae disgwyl i’r to iau gamu i’r bwlch.

Eisoes yr wythnos hon, cafodd y batiwr ifanc o Gaerdydd, Jeremy Lawlor, y bowliwr cyflym o Wrecsam, Dewi Penrhyn Jones a’r troellwr ifanc o’r gorllewin, Kieran Bull eu cynnwys yn y garfan 12 dyn i herio Swydd Middlesex yn Lord’s.

Cyn diwedd yr wythnos, fe fydd Morgannwg yn herio Swydd Gaerhirfryn yn Old Trafford yn y gystadleuaeth 50 pelawd, ac fe fydd yna gyfle arall i’r chwaraewyr ifainc bryd hynny.

Mae Alan Jones wedi croesawu’r penderfyniad i gynnwys rhai o’r Cymry ifainc yn y garfan.

Dywedodd wrth Golwg360: “Beth sy’n rhaid i Forgannwg wneud tan ddiwedd y tymor, dw i’n meddwl, yw rhoi’r cyfle i’r bois ifainc hyn a’u chwarae nhw yn y tîm cyntaf o hyd.

“Sdim gwahaniaeth fel maen nhw’n gwneud, dim ond iddyn nhw gael profiad o gael chwarae yn y tîm cyntaf ac mae hyn yn bwysig iawn.”

Chwaraewyr y dyfodol

Fel hyfforddwr, mae Alan Jones wedi gweld y chwaraewyr iau yn datblygu dros y blynyddoedd wrth gynrychioli grwpiau oedran Cymru, ac mae’n ffyddiog fod ganddyn nhw’r potensial i lwyddo ar y lefel uchaf.

“Pan o’n i’n hyfforddi Cymru dan 11, ro’dd Dewi Penrhyn Jones yn nhîm Cymru gyda fi, a hefyd Jeremy Lawlor ac Aneurin Donald.

“Mae’r tri ohonyn nhw’n gricedwyr da. Mae Jeremy Lawlor wedi bod i Ysgol Trefynwy, yn fatiwr llaw dde. Dw i’n meddwl os gall e gadw i wella o hyd, mae e’n fatiwr da iawn.

“Ry’n ni i gyd yn gwybod am Aneurin Donald oherwydd mae e wedi bod yn chwarae yn y tîm cyntaf ac i’r ail dîm, sgoriodd e 240 ryw dair wythnos yn ôl [yn erbyn Swydd Gaerloyw ym Mhanteg] a dw i’n siwr bod dyfodol disglair iddo fe hefyd. Mae’r potensial yna, os gall e gadw fynd fel mae e wedi gwneud lan i nawr, mae siawns gyda fe [i gynrychioli Lloegr].

“Mae’n foi mawr ac mae e’n gallu bwrw’r bel yn galed iawn. Beth maen nhw’n edrych amdano heddi yn nhîm Lloegr a’r siroedd i gyd yw bo chi’n gallu bwrw’r bêl yn bell ac yn galed ac mae Aneurin Donald yn un o’r rheiny.”

Bwrw prentisiaeth

Dau o’r chwaraewyr ifainc sydd wedi mireinio’u crefft yn y tîm cyntaf ers sawl tymor yw’r troellwr Andrew Salter a’r chwaraewr amryddawn David Lloyd.

Mae Salter wedi taro dau hanner canred eisoes y tymor hwn, gan gyrraedd ei gyfanswm dosbarth cyntaf unigol gorau o 73 heb fod allan yn erbyn Swydd Gaerloyw yn San Helen.

Mae Lloyd hefyd wedi bod yn gyfrannwr cyson gyda’r bat a’r bêl drwy gydol y tymor.

Mae’r ddau yn enghreifftiau o’r hyn y gall y chwaraewyr ifainc ei gyflawni, yn ôl Alan Jones.

“Mae’r ddau ohonyn nhw wedi profi’u hunain yn nhîm cyntaf Morgannwg eleni.

“Mae David Lloyd wedi gwella dipyn, wedi sgorio rhediadau a hefyd wedi cymryd wicedi.

“Mae Andrew Salter yn fowliwr araf da, yr un fath â Robert Croft. Allet ti byth cael unrhyw un gwell i’w ddysgu fe ar y ffordd ymlaen na Robert Croft. Mae Kieran Bull o Gaerfyrddin hefyd yn droellwr da arall sy’n troi’r bêl dipyn.”

Cymreictod Morgannwg

Sicrhau llwyddiant ar unwaith sydd i gyfrif am ddiffyg parodrwydd Morgannwg i roi cyfle i gricedwyr ifainc o Gymru hyd yn hyn, ym marn Alan Jones.

Ychwanegodd: “Beth sydd wedi digwydd dros y blynydde diwetha, dw i’n meddwl, yw oherwydd fod y gêm wedi newid dipyn o’r gêm pedwar diwrnod neu dri diwrnod pan o’n i’n chwarae, mae pobol yn moyn i’r tîm ennill yn syth.

“Dyw’r gêm un diwrnod, yn fy marn i, ddim wedi rhoi’r cyfle i chwaraewyr ifainc Cymru i ddod trwyddo.

“Sdim amynedd gyda’r clybiau heddi fel oedd e flynydde yn ôl. O’t ti’n cael llawer mwy o gyfle i chwarae yn y tîm cynta’ blynydde’n ôl nag maen nhw’n cael heddi.

“Byddai llawer gwell gen i fynd lawr i weld Morgannwg yn chwarae ag wyth neu naw o chwaraewyr o Gymru’n chwarae. Dyna beth dw i’n edrych ymlaen i weld.”

Stadiwm ar draul y to iau

Rheswm arall am ddiffyg chwaraewyr o Gymru yn nhîm Morgannwg, ym marn Alan Jones, yw fod cynifer o gemau’n cael eu cynnal yn y Swalec SSE yng Nghaerdydd ar draul rhai o ardaloedd eraill Cymru.

Bellach, dim ond dau gae allanol sydd gan Forgannwg, sef Abertawe a Bae Colwyn.

“Dw i’n credu bod e wedi gwneud tipyn bach [o wahaniaeth].

“Blynydde’n ôl, o’t ti’n chwarae hanner y gemau yng Nghaerdydd a hanner yn Abertawe. Maen nhw’n mynd lan i Fae Colwyn nawr i chwarae, ond o’n nhw’n chwarae yn Llanelli, Castell-nedd, Casnewydd, Glyn Ebwy a dros y llefydd hyn i gyd.

“Ro’dd hynny’n dipyn o help i chwaraewyr ifainc weld chwaraewyr Morgannwg yn chwarae’n fwy aml yn eu cymdeithas nhw.”