Mae pedwar newid yng ngharfan Morgannwg ar gyfer eu taith i Lord’s i herio Swydd Middlesex yng nghwpan 50 pelawd Royal London.

Fe fydd gan y bowlwyr cyflym Michael Hogan a Graham Wagg gyfle i orffwys, a does dim lle ychwaith i’r troellwr llaw chwith Dean Cosker na’r batiwr ifanc o Abertawe, Aneurin Donald sy’n gapten ar dîm dan 19 oed Lloegr ar hyn o bryd.

Y pedwar sy’n dod i mewn yw’r bowliwr cyflym o Wrecsam Dewi Penrhyn Jones, yr Albanwr amryddawn Ruaidhri Smith, y batiwr ifanc o Gaerdydd Jeremy Lawlor a James Kettleborough.

Mae’r troellwr ifanc o Gaerfyrddin, Kieran Bull hefyd wedi’i gynnwys yn y garfan yn dilyn ei gyfle yn San Helen ddechrau’r mis.

Mae Kettleborough wedi’i enwi yn y garfan am y tro cyntaf ers mis Mai, pan heriodd Swydd Essex yn y Bencampwriaeth yn Stadiwm Swalec.

Dywedodd prif hyfforddwr Morgannwg, Toby Radford: “Bydd Dewi Penrhyn Jones yn dod i mewn a chael cyfle ddydd Llun ac mae Jeremy Lawlor yn y garfan ynghyd â Ruaidhri Smith a James Kettleborough hefyd.

“Cafodd Ketts ganred yn yr ail dîm yr wythnos diwethaf felly mae’n gyfle i’r bois hyn ddangos beth sydd ganddyn nhw a does unman gwell na chartref criced.”

Mae Morgannwg eisoes allan o’r gystadleuaeth 50 pelawd, ond mae ganddyn nhw ddwy gêm yn weddill – yn Lord’s ddydd Llun ac yn erbyn Swydd Gaerhirfryn yn Old Trafford ddydd Mercher.

Ychwanegodd Radford: “Gallwn ni fod yn gystadleuol o hyd oherwydd o amgylch y chwaraewyr ifainc hyn mae Jacques Rudolph, Colin Ingram, Chris Cooke a Craig Meschede a chwaraewyr eraill o safon hefyd.

“Fe fydd gyda ni rai o’r chwaraewyr iau yn yr ail gêm yn Old Trafford hefyd, er bod Graham Wagg yn debygol o ddod i mewn ar gyfer y gêm ddydd Mercher, ond fe fydd Michael Hogan yn colli’r ddwy gêm felly gobeithio y bydd e’n ffres iawn ar gyfer y gêm Bencampwriaeth ddydd Gwener yn Old Trafford ddiwedd yr wythnos.”

Mae’r Cymro James Harris, gynt o Forgannwg, yng ngharfan Swydd Middlesex, ynghyd â’r cyn-fowliwr cyflym llaw chwith, James Franklin o Seland Newydd.

Carfan 12 dyn Morgannwg: J Rudolph (capten), J Kettleborough, W Bragg, C Ingram, C Cooke, D Lloyd, C Meschede, A Salter, R Smith, D Penrhyn Jones, K Bull, J Lawlor

Carfan 12 dyn Swydd Middlesex: J Franklin (capten), N Compton, N Dexter, J Harris, Junaid Khan, D Malan, T Murtagh, O Rayner, S Robson, T Roland-Jones, G Sandhu, J Simpson, P Stirling