Mae dau o dimau criced iau’r De wedi cipio tlysau yn rowndiau terfynol Criced Cymru.

Castell-nedd oedd yn fuddugol yn y gystadleuaeth dan 13, tra bod Caerdydd wedi cipio’r tlws dan 15.

Cymerodd timau o Gaerdydd, Nedd Port Talbot, Sir Fynwy a Bwrdeistref Sirol Wrecsam ran yn y rowndiau terfynol.

Cymerodd tri enillydd rhanbarthol o’r De Orllewin, De Ddwyrain a’r Gogledd ran yn y twrnameintiau yn y Swalec SSE yng Nghaerdydd, sef cartref Clwb Criced Morgannwg a lleoliad cyfres y Lludw 2015.

Dan 13 oed

Cyfyngwyd y gystadleuaeth dan 13 i 10 pelawd bob ochr, wedi i law trwm amharu ar y chwarae yn ystod y bore, a dechreuwyd gyda Chas-gwent yn curo Castell Nedd o ddau rediad yn unig, gan sgorio 90-7 yn eu 10 pelawd cyn i Gastell-nedd fethu â chyrraedd y nod gan sgorio 88-3 yn unig.

Yna curodd Castell-nedd Llay Welfare trwy gyrraedd 83-0 oddi ar 8.3 pelawd, gan guro cyfanswm tîm Gogledd Cymru o 82-2.

Yn y gêm derfynol, trechodd Llay Welfare Gas-gwent trwy guro cyfanswm 10 pelawd eu gwrthwynebwyr o 81-4, gyda dim ond dwy belen ar ôl.  Gyda phob tîm wedi ennill gêm, bu’n rhaid dyfarnu’r teitl yn ôl y gyfradd rhediadau gyfartalog, a Chastell Nedd oedd ar y brig.

Dan 15 oed

Yn y twrnamaint ugain pelawd dan 15, cafodd Caerdydd fuddugoliaeth o 61 rhediad yn eu gêm gyntaf yn erbyn Castell-nedd – gan sgorio 176-5 cyn llwyddo i gyfyngu Castell-nedd i 115-2.

Yn yr ail gêm, collodd Castell-nedd yn erbyn Gresffordd, gan gyrraedd 107-5 ar ôl i’w gwrthwynebwyr sgorio 152-3.  Llwyddodd capten Castell-nedd, Tiaan Thomas Wheeler,  i gyrraedd hanner cant heb fod allan yn y ddwy gêm.

Cipiodd Caerdydd y teitl gyda buddugoliaeth o 49 rhediad yn erbyn Gresffordd yn y gêm olaf, gyda’r tîm o ogledd Cymru i gyd allan am 83 wedi i Gaerdydd sgorio 135-5.

Ymateb Criced Cymru

“Mae’r rowndiau terfynol cenedlaethol bob amser yn ddigwyddiad gwych i gricedwyr ifanc ein clybiau, ac eleni roedd y gystadleuaeth dan 13 mor agos, bu’n rhaid penderfynu ar sail y gyfradd rhediadau gyfartalog – gan ddarparu diweddglo cyffrous i dymor y cwpan,” meddai prif weithredwr Criced Cymru, Peter Hybart.  “Mae’r holl dimau sy’n llwyddo i ddod mor bell â hyn yn bencampwyr, a gwnaethant yn fawr o’r cyfle i chwarae mewn lleoliad mor glodfawr.

“Rydym yn ddiolchgar iawn i Glwb Criced Morgannwg am lwyfannu’r rowndiau terfynol yn ystod tymor mor brysur – roedd cael y cyfle i chwarae mewn lleoliad rhyngwladol yn ysgogiad ychwanegol i’r holl dimau.

“Diolch hefyd i Ted Tipper am drefnu’r gystadleuaeth trwy gydol y tymor, ac i’r chwaraewyr o Glwb Morgannwg a gyflwynodd y tlysau, sef  Dewi Penrhyn-Jones, a chwaraeodd unwaith yn y gystadleuaeth i Glwb Criced Brymbo, a gyflwynodd y tlws dan 13, a Jacques Rudolph a Colin Ingram, a gyflwynodd y tlysau dan 15.”

Criced Cymru yw’r corff llywodraethu cenedlaethol ar gyfer criced iau a chriced hamdden hŷn yng Nghymru.  Mae’n gweithio’n agos â Chlwb Criced Morgannwg, sy’n llywodraethu gêm broffesiynol y dynion.  Am wybodaeth ewch i:  www.cricketwales.org.uk