Mae Lloegr wedi curo Awstralia o 169 o rediadau ym mhrawf cyntaf cyfres y Lludw yn y Swalec SSE yng Nghaerdydd.

Doedd 77 gan Mitchell Johson ddim yn ddigon i fynd ag Awstralia’n agos at gyrraedd y 412 oedd eu hangen am y fuddugoliaeth, wrth iddyn nhw gael eu bowlio allan am 242 yn y sesiwn olaf ar y pedwerydd diwrnod.

Roedd Awstralia’n gwybod fod rhaid iddyn nhw greu hanes trwy gwrso’r nod, ond roedd yr her yn ormod wrth iddyn nhw geisio ymgyfarwyddo â’r amodau ar ddechrau taith sydd yn mynd i fod yn dalcen caled iddyn nhw.

Johnson oedd yr unig fatiwr yn nhîm Awstralia ddangosodd y nodweddion angenrheidiol i drechu Lloegr.

Ond roedden nhw ymhell o wneud hynny wrth iddyn nhw ddechrau sesiwn ola’r dydd ar 162-7.

Mitchell Starc oedd yr wythfed dyn yn nhîm Awstralia i golli ei wiced wrth i ddau o chwaraewyr Swydd Efrog, Adam Lyth a Joe Root gydweithio – y naill yn dal y bêl oddi ar fowlio’r llall yn golygu bod Awstralia’n 223-8 a dwy wiced i ffwrdd o golli’r prawf cyntaf ddiwrnod yn gynnar.

Cyfunodd y ddau unwaith eto’n fuan wedyn i gipio wiced Mitchell Johnson am 77, gyda’r cyfanswm yn 242-9.

Heb ychwanegu at y cyfanswm, collodd Awstralia eu wiced olaf wrth i Josh Hazlewood gael ei ddal gan Root oddi ar fowlio Moeen Ali i roi blaenoriaeth o 1-0 i Loegr yn y gyfres.

Yn gynharach yn y dydd, fe ddechreuodd Awstralia’n bositif wrth i David Warner daro hanner canred oddi ar 72 o belenni, gan ddangos agwedd ymosodol oedd yn absennol am rannau helaeth o’r ornest.

Roedd Awstralia’n 97-1 ar drothwy amser cinio, ond cipiodd Moeen Ali wiced Warner gyda phelen ola’r sesiwn ac roedd y rhod yn dechrau troi o blaid Lloegr.

Collodd Awstralia bedair wiced am naw rhediad o fewn 36 o belenni o gwmpas amser cinio ac roedden nhw mewn dyfroedd dyfnion o hynny allan.

Crynodeb o’r gêm

Sgoriodd Lloegr 430 yn eu batiad cyntaf ar ôl penderfynu batio’n gyntaf, ac fe darodd Joe Root 134 i osod y seiliau ar lain oedd yn ffafriol i’r batwyr drwy gydol y pedwar diwrnod.

Tarodd Moeen Ali 77 yn y batiad, ac roedd hanner canred yr un hefyd i Gary Ballance (61) a Ben Stokes (52).

Yn ystod y batiad, cipiodd Mitchell Starc bum wiced am 114, wrth i Johnson ildio 111 o rediadau heb gipio’r un wiced.

308 gafodd Awstralia wrth ymateb i gyfanswm batiad cyntaf Lloegr, a Chris Rogers (95) oedd yr unig fatiwr sgoriodd hanner canred, wrth i Anderson, Broad, Wood, Stokes ac Ali rannu’r wicedi rhyngddyn nhw.

Gyda blaenoriaeth batiad cyntaf o 122, roedd gan Loegr gyfle ar yr ail ddiwrnod i roi cryn bwysau ar Awstralia, ac fe wnaethon nhw hynny’n llwyddiannus wrth i Root ac Ian Bell daro 60 yr un i arwain Lloegr i gyfanswm o 289, a gosod nod o 412 i Awstralia.

Roedd tasg Awstralia’n anodd wrth iddyn nhw geisio cwrso’r cyfanswm uchaf mewn gornest yng nghyfres y Lludw ers 1948, ond roedden nhw ymhell o fod yn ddigon da ar y pedwerydd diwrnod i sicrhau’r fuddugoliaeth, ac fe fyddan nhw dan bwysau mawr wrth fynd i Lord’s am yr ail brawf.

Seren yr ornest oedd Joe Root am ei gyfraniadau o 134 a 60 gyda’r bat, a dwy wiced am 28 wrth fowlio yn yr ail fatiad.