Wrth i’w cartref yng Nghaerdydd groesawu Cyfres y Lludw yr wythnos hon, mae Morgannwg yn teithio i Swydd Sussex heno wrth iddyn nhw anelu am le yn rownd yr wyth olaf yng nghystadleuaeth y T20 Blast.

Yn union fel Stadiwm Swalec, mae’r holl docynnau ar gyfer yr ornest T20 yn ne-ddwyrain Lloegr wedi’u gwerthu.

Bydd Morgannwg, sy’n bedwerydd yn y tabl, yn anelu i adeiladu ar eu buddugoliaeth o 23 rhediad oddi cartref yn Swydd Hampshire nos Wener diwethaf.

Mae Morgannwg wedi cynnwys y troellwr llaw chwith, Dean Cosker, fu’n ddeuddegfed dyn i Loegr yng Nghaerdydd ar ôl cael ei adael allan o’r garfan a heriodd Swydd Derby yn y Bencampwriaeth yn Chesterfield.

Mae Swydd Sussex yn uwch na Morgannwg yn y tabl yn yr ail safle, un pwynt ar y blaen i’r Cymry.

Y Saeson oedd yn fuddugol pan gyfarfu’r ddwy sir ar brynhawn siomedig fis diwethaf yng Nghaerdydd.

Dydy Morgannwg erioed wedi ennill yn Hove ond pe baen nhw’n fuddugol, dyma fyddai’r tro cyntaf iddyn nhw gael saith buddugoliaeth yn y gystadleuaeth – fe gawson nhw chwech yn 2010 a 2014.

Carfan 14 dyn Swydd Sussex: G Bailey, W Beer, B Brown, C Cachopa, H Finch, M Hobden, C Liddle, M Machan, T Mills, C Nash, S Piolet, O Robinson, L Wright (capten), M Yardy

Carfan 12 dyn Morgannwg: J Rudolph (capten), B Wright, C Ingram, M Wallace, C Meschede, G Wagg, D Lloyd, A Donald, A Salter, R Smith, D Cosker, M Hogan