Capten Awstralia, Michael Clarke (Llun: PA)
Does dim angen gradd mewn seicoleg i ddeall diben y dacteg fyd-enwog ar y maes chwarae sy’n cael ei alw’n ‘sledging’. Gweithred eiriol ymosodol yw hi sy’n gorfodi’ch gwrthwynebydd i golli ffocws. Mae’n cael ei chysylltu’n bennaf â’r byd criced, ac mae’n un o’r tactegau seicolegol hynaf sy’n cael ei defnyddio hyd heddiw.

Un o’r bowlwyr ffyrnicaf yn hanes criced yw cyn-fowliwr cyflym Awstralia, Dennis Lillee, sy’n mantesio ar y cyfle yn ei hunangofiant ‘Menace’ [Headline, 2003] i grisialu pwysigrwydd ochr seicolegol criced, yn enwedig i chwaraewyr ifainc:

“…There were two games going on out there, a mind game as well as a physical game of cricket, and you must never let anyone dominate you. The tough survive and the weak do not.”

Ar drothwy Cyfres y Lludw, mae Awstralia eisoes wedi awgrymu bod batiwr ifanc Lloegr a Swydd Durham, Ben Stokes yn debygol o gael ei dargedu am ei fod yn un o’r chwaraewyr mwyaf di-brofiad yn y garfan.

Ond mae Stokes yn barod am yr her, ac mae’n bosib y bydd ganddo fe ambell air i’w ddweud wrth y gwrthwynebwyr drachefn.

“Dw i’n bendant yn disgwyl ambell ffrae allan ar y cae,” meddai.

“Dw i ddim yn mynd i chwilio amdanyn nhw, a dw i ddim yn mynd allan o’m ffordd i achosi ffrae, ond os daw rhywun atoch chi ar y cae ym merw’r eiliad ac os yw’r adrenalin yn pwmpio, does neb yn y garfan hon yn mynd i encilio.

“Mae gyda ni i gyd ein ffyrdd o ymdrin ag e. Mae rhai o’r bois yn cerdded i ffwrdd heb fynd ynghlwm wrtho fe, ond fe fydda i’n edrych i mewn i’w llygaid nhw, fwy na thebyg, a dweud rhywbeth wrthyn nhw.”

Hiwmor a ffraethineb

Y nod i unrhyw ‘slejar’ gwerth ei halen yw gwneud sylw cofiadwy a ffraeth. Ond gall y dechneg fod yn ddi-hiwmor, gan ymylu ar fod yn ffiaidd ar adegau – does ond angen gofyn i fowliwr cyflym Lloegr, Jimmy Anderson. Cafodd Anderson addewid gan gapten Awstralia, Michael Clarke mewn cyfres flaenorol y byddai’r bowliwr cyflym Mitchell Johnson yn ceisio torri ei fraich. Mae Clarke wedi ymddiheuro erbyn hyn – am gael ei glywed ar y teledu ac am regi, yn hytrach nag am y bygythiad

Ac os y’ch chi’n credu bod Clarke a’i dîm wedi meddalu erbyn hyn, meddyliwch eto! Wrth i Gyfres y Lludw ddechrau yng Nghaerdydd ddydd Mercher (Gorffennaf 8), mae Awstralia’n dweud eu bod nhw’n barod i ddefnyddio’r dacteg unwaith eto.

Yr Awstraliaid hwythau, mae’n debyg, ddyfeisiodd y grefft, a’r gair ei hun yn deillio o rym geiriau, wrth fynd â ‘sledgehammer’ trosiadol at rywun. Mae hyd yn oed Lillee yntau wedi cyfaddef fod y weithred wedi mynd yn rhy bell yn yr oes sydd ohoni.

Bellach, mae’r weithred – a rhai o’r enghreifftiau enwocaf – yn rhan o chwedloniaeth criced. Dyma ddetholiad o’r sgyrsiau honedig gorau yn hanes criced – ‘honedig’ yw’r gair allweddol mewn rhai achosion, cofiwch!

1. Merv Hughes wrth Graham Gooch:

Roedd Gooch yn ei chael hi’n anodd taro’r bêl oddi ar y llain, ac roedd yr Awstraliad ffyrnig yn barod i gynnig gair o anogaeth iddo:

Would you like me to bowl a piano and see if you can play that.”

2. Merv Hughes a Javed Miandad.

Dydy’r grefft ddim yn unigryw i Gyfres y Lludw a’r berthynas danllyd rhwng Lloegr yn Awstralia yn unig, fel mae’r sgwrs ganlynol rhwng bowliwr Awstralia a batiwr Pacistan yn dangos.

Javed Miandad: “Merv you are a big, fat bus conductor.

Merv Hughes (ar ôl cipio wiced Javed): “Tickets please!”

3. Merv Hughes wrth Robin Smith.
Dyma drydydd ymddangosiad Hughes yn y rhestr, sy’n dyst i’r ffaith fod ganddo fe ddawn eiriol, yn ogystal â bod yn un o fowlwyr gorau’i gyfnod. Wrth i fatiwr Lloegr, Robin Smith gael trafferth taro’r bêl, pwy gynigiodd air o gyngor ond Hughes yntau:

“If you turn the bat over, you’ll get the instructions mate.”

4. Viv Richards a Greg Thomas.
Fe ddigwydd fy hoff enghraifft mewn gornest sirol rhwng Morgannwg a Gwlad yr Haf yn 1986 – a gallaf led-ddilysu’r stori gan fod Richards ei hun wedi cynnwys yr hanes yn ei hunangofiant. Roedd y Cymro Cymraeg Greg Thomas yn bowlio at Richards, un o fawrion India’r Gorllewin.

O weld rhwystredigaeth Richards wrth fethu taro’r bêl, aeth Thomas ato a cheisio disgrifio’r union bêl honno i’w wrthwynebydd:

“It’s red, round and weighs about five ounces, in case you were wondering.”

Gyda hynny, fe laniodd y bêl yn afon Taf, a Richards gafodd y gair olaf:

“Greg, you know what it looks like, now go and find it”.

Syrcas y wasg

Y cyfryngau, ar y cyfan, sy’n cael y bai am godi’r enghreifftiau yma bob tro fyddwn ni ar drothwy Cyfres y Lludw. Ond fe fyddai’r byd criced lawer tlotach – a diflas – hebddyn nhw.

Ymateb digon difater ddaeth gan yr Awstraliad Shaun Marsh, cyn-fatiwr agoriadol Morgannwg, yn ddiweddar pan ofynnodd y wasg iddo am ei farn am y dacteg.

“Dw i’n credu ei bod hi’n bwysig i ni fynd allan a dangos ein bod yn ymosodol a gosod ein stamp ar y gêm – dyna’r ffordd Awstralaidd.

“Mae’n Gyfres y Lludw a dw i’n siŵr y bydd ‘sledging’ gan y ddau dîm, ond dw i hefyd yn siŵr y bydd o fewn ffiniau ysbryd y gêm.”

Cafodd ei sylwadau eu hategu gan gapten Awstralia, Michael Clarke, a ddywedodd y byddai’r ‘sgwrs’ ar y cae “o fewn ysbryd y gêm”.

Un sy’n benderfynol, meddai, o sicrhau nad yw ei dîm yn sarhau’r gwrthwynebwyr yn ormodol yw capten Lloegr, Alastair Cook, sy’n gobeithio ail-greu ysbryd y gyfres ddiweddar rhwng Lloegr a Seland Newydd.

Fawr o Gymraeg

Ond mae wicedwr Awstralia, Brad Haddin yn amau bwriad Lloegr. Ac mae’n ymddangos bod ganddo fe reswm da am hynny. Mae bowliwr cyflym Lloegr, Stuart Broad wedi cwestiynu doethineb yr ymwelwyr wrth geisio troi’r chwaraewr amryddawn Steve Smith yn fatiwr rhif tri. Ymgais ar droi ei law at ‘sledging’ ar drothwy’r gyfres, efallai?

Dywedodd Broad fod gweld Smith yn batio’n drydydd yn “fantais” i Loegr, a bod angen “techneg dynn iawn” i allu cyflawni’r rôl yn effeithiol.

Ychwanegodd Broad: “Mae hi i fyny i ni, fel bowlwyr agoriadol, i gael wiced gynnar a’i gael e’n batio gynnar yn erbyn y bêl newydd, gan nad yw e wedi cael fawr o lwyddiant yn Lloegr.

“Pan chwaraeodd e yn y gyfres yn 2013, fe gafodd e ganred ar gae’r Oval ar lain fflat.”

Mae ymateb Broad wedi synnu Haddin.

“Un wythnos, maen nhw’n dweud nad ydyn nhw am gael ‘sledging’, nawr maen nhw’n anelu’r ‘sledging’ at Steve yn barod.

“Mae’r cyfan yn rhan o ymgyrch y Lludw. Tan fod y belen gyntaf yn cael ei bowlio yng Nghaerdydd, fe fydd hyn yn cael ei drafod.”

Wrth ymateb i’r awgrym fod tîm Awstralia’n heneiddio, dywedodd Haddin: “Mae’n rhaid i ni ofyn i’r hyfforddwyr falu ein bwyd weithiau gan ein bod ni’n hen, ond fel’na mae.”

Os yw gwers Gymraeg (dadleuol) y Saeson yng ngŵyl Tafwyl y penwythnos diwethaf yn llwyddiannus, mae’n bosib y gallwn ni edrych ymlaen at ambell air o Gymraeg ar gae’r Swalec dros yr wythnos nesaf. Does ond gobeithio na chaiff yr Awstraliaid wybod am y Rhegiadur yn y cyfamser!