Awst 4, 2014. Dydd Llun Eisteddfod Genedlaethol Sir Gâr. Dim gêm gan Forgannwg, felly bant â fi i’r Maes yn Llanelli. Rhaglen swyddogol y Brifwyl yn disodli’r Cricketers’ Who’s Who yn fy llaw, a chriced yn cael ei symud i gefn fy meddwl… am rywfaint o leiaf! Wrth ddrws y pafiliwn, digwyddais weld un o’m darlithwyr o’m dyddiau coleg – un yr oeddwn fwy na thebyg wedi cael mwy o sgyrsiau ag e am griced nag yr oeddwn wedi’u cael am lenyddiaeth Gymraeg! “Hanner can mlynedd i heddiw,” meddai, “ro’n i yn Sain Helen yn gwylio Morgannwg yn curo Awstralia.” Pe bai Morgannwg wedi bod yn herio’r Awstraliaid yn ystod wythnos gyntaf mis Awst y llynedd, y pafiliwn criced – nid y pafiliwn pinc – fyddai fy newis innau hefyd.

Yn 1964, roedd sylw’r rhai a ddewisodd fynd i’r Eisteddfod wedi’i rannu rhwng y Brifwyl ym Mharc Singleton a’r criced dafliad carreg i ffwrdd yn Sain Helen. Cymaint oedd y cyffro nes bod setiau teledu o amgylch y Maes er mwyn i Eisteddfodwyr fwynhau’r gêm yn ogystal â’r arlwy arferol o gerdd a chân. Daeth y ddau fyd at ei gilydd pan oedd toriad yn y gêm ar y Saboth. Cafodd y ddau dîm eu cyflwyno i’r gynulleidfa yn y pafiliwn ar noswyl ail ddiwrnod y gêm.

Byddai cael gwylio gornest o’r fath yn cyffroi’r cefnogwr ynof fi; cyflawni uchelgais fyddai cael gohebu arni. A’m dychymyg wedi tanio, ystyriais sut y byddwn i, pe bawn i’n gohebu’r diwrnod hwnnw, wedi disgrifio buddugoliaeth hanesyddol Morgannwg yn 1964.

Pa mor wahanol fyddai’r profiad o ohebu yn Gymraeg ar ornest ddau ddegawd cyn i fi gael fy ngeni, tybed? Doedd y rhyngrwyd ddim yn bod bryd hynny, heb sôn am wefan www.golwg360.cymru na’i hadran griced. Dim Twitter, chwaith, i gyflymu’r broses o ledaenu newyddion.

Y wasg yng Nghymru

Roedd Cymru 1964 yn wahanol iawn – yn ddiwylliannol ac yn wleidyddol – i Gymru hanner canrif yn ddiweddarach. Dyna flwyddyn penodi Ysgrifennydd Gwladol cyntaf Cymru a sefydlu BBC Cymru. Yn ddiddorol, honno hefyd oedd y flwyddyn pan safodd cyn-gapten Lloegr, Ted Dexter, yn ymgeisydd Ceidwadol dros dde-ddwyrain Caerdydd yn erbyn Jim Callaghan yn yr etholiad cyffredinol. Sbardunwyd Dexter i droi at wleidyddiaeth yn dilyn siom Lloegr yng Nghyfres y Lludw y flwyddyn honno.

Roedd y wasg yn 1964 yn sicr yn wahanol yn ei hagwedd at chwaraeon. Mor gynnar â 1926, fe dynnodd y llenor a sylfaenydd Plaid Cymru, Saunders Lewis, sylw at y gwahaniaethau rhwng cyhoeddiadau Cymru a Lloegr. Roedd papurau Lloegr wedi rhoi cryn sylw i’r “ornest cricket [sic] rhwng Lloegr ac Awstralia” ym mis Awst 1926, ond “fe lenwir y papurau Cymraeg y mis hwn gan nifer o feirniadaethau hir a helaeth a manwl ar ni wn i ba sawl cystadleuaeth eisteddfod mewn barddoniaeth a rhyddiaith a chanu a chyfansoddi”.

Roedd newyddiaduraeth chwaraeon wedi dechrau datblygu yn Saesneg cyn dechrau’r ugeinfed ganrif. Ond, gan fod y wasg Gymraeg wedi’i gwrieddio yn y Gymraeg ac Anghydffurfiaeth – dwy o brif beuoedd yr hunaniaeth Gymraeg – fe deimlai’r angen i amddiffyn ei darllenwyr rhag dylanwadau estron, yn enwedig pan fyddai pau newydd yn ymddangos, megis chwaraeon.

Cyn y 1960au, roedd papurau Cymraeg wedi dechrau rhoi sylw i chwaraeon, gydag Eic Davies ac eraill yn defnyddio termau a fathwyd yn wreiddiol ar gyfer y radio yn yr 1930au. Ond rygbi a phêl-droed, i raddau llai, ac nid criced, a gâi’r sylw ar y cyfan. Prin iawn oedd y termau Cymraeg safonol a fyddai ar gael ar gof a chadw i’r gohebydd criced yn 1964. Câi termau llafar eu defnyddio, ond prin oedd y termau ysgrifenedig.

Roedd rhai termau yn y gyfrol chwaraeon ffeithiol gyntaf un yn y Gymraeg, ‘Crysau Cochion’ (gol. Howard Lloyd, 1958), a nifer hefyd, er yn dafodieithol, yn y gyfrol o straeon byrion ‘Cap Wil Tomos a Storïau Eraill’ gan Islwyn Williams rai blynyddoedd ynghynt yn 1946.

Cysoni termau chwaraeon

Ni ddaeth y gyfrol ‘Termau Chwaraeon ac Adloniant’, llyfr poced defnyddiol o dermau chwaraeon, tan 1965. Er ei fod yn gyfyng, ymgais oedd hwn i gywain yr holl dermau chwaraeon cyfoes rhwng dau glawr. Ond doedd dim cysondeb o gymharu â’r termau achlysurol mewn geiriaduron blaenorol. Dyma rai enghreifftiau:

‘Batting crease’

Yn ôl y ‘Termau Chwaraeon ac Adloniant’, ‘cris batio’ oedd yn cael ei ddefnyddio, er mai ‘llinell fato’ oedd y term yn y Geiriadur Mawr yn 1958.

‘To declare’

Nid tan fersiwn 1968 y cafwyd y term ‘cau batiad’ yn y Geiriadur Mawr ar gyfer ‘to declare’ – ‘declario’ a geid yn y ‘Termau Chwaraeon ac Adloniant’.

Diffyg termau

Roedd rhai termau yn y ‘Termau Chwaraeon ac Adloniant’ nad oedd geiriau Cymraeg ar eu cyfer o gwbl, er enghraifft ‘full toss’. Enghraifft arall o fwlch yn y ddarpariaeth oedd y ffaith mai’r term ‘sbin’ oedd yn cael ei ddefnyddio ar gyfer y dull o fowlio a doedd dim sôn bryd hynny am y ‘troellwr’.

Termau’n amrywio

‘Ceidwad-wiced’ a ymddangosai yn y Geiriadur Mawr yn 1958 ar gyfer ‘wicket-keeper’. Erbyn 1965, ‘wicedwr’ oedd y term yn y ‘Termau Chwaraeon ac Adloniant’ ac fe gafodd hwnnw’i fabwysiadu gan y Geiriadur Mawr yn fersiwn 1968.

Un o’r termau a amrywiai fwyaf oedd ‘umpire’. ‘Canolwr’, ‘rheolwr’ a ‘dyfarnwr’ yw’r tri therm yn y Geiriadur Mawr yn 1958, er mai ‘canolwr’ neu ‘dyn canol’ yn unig oedd yn y Geiriadur Newydd yn 1953. Erbyn i’r ‘Termau Chwaraeon ac Adloniant’ ymddangos yn 1965, ‘dyfarnwr’ yn unig a geid, a hwn yw’r term a oroesodd hyd heddiw, wrth gwrs.

Y fuddugoliaeth trwy lygaid y papurau

O gofio hyn oll, es i ati i bori trwy’r archifau i ddod o hyd i hynny o adroddiadau a allwn am lwyddiant Morgannwg ym mis Awst 1964. O ran y Gymraeg, canolbwyntiais ar ddau gyhoeddiad amlwg, Y Cymro a’r Faner. Siom oedd darganfod nad oedd yr un o’r papurau Cymraeg wedi rhoi yr un gair o sylw i’r ornest – dim rhagflas, dim adroddiad, dim un ystadegyn. Fe ganolbwyntiai’r ddau ar Eisteddfod Genedlaethol Abertawe’n bennaf – ychydig iawn o newid a fu yn agwedd y papurau ers sylwadau Saunders Lewis yn 1926.

Nid tan i fi droi at y papurau dyddiol Saesneg eu hiaith yng Nghymru y ces i flas go iawn o’r hyn a ddigwyddodd yn ystod wythnos gyntaf mis Awst 1964.

Dros gyfnod o bedwar diwrnod, paentiodd Ron Griffiths, gohebydd criced y South Wales Evening Post, ddarlun o’r hyn a ddigwyddai ar y cae mewn amryw erthyglau – ‘Crash Go The Wickets Again’ (Awst 3, tudalen 8), ‘Seesaw Tilts Back to Welshmen’ (Awst 4, tudalen 16) ac yn olaf, ‘Truly, their finest hour’ (Awst 5, tudalen 8), sef darlun o’r dathliadau wrth i Forgannwg gipio’r fuddugoliaeth.

Darlun digon tebyg sydd gan JGB Thomas yn y Western Mail dros gyfnod o dridiau hefyd. Cawn flas o’r chwarae mewn amryw o erthyglau, megis ‘Aussies will fight to keep record’ (Awst 3, tudalen 14) a ‘Caught on a Turner’ (Awst 3, tudalen 14). Ar Awst 3, fe ddisgrifiodd y “tension as all-embracing as the final moments of a rugby international”, a gwelwn ar unwaith y pwys cenedlaethol oedd ar griced. Ar Awst 4, cawn ddisgrifiad arall sy’n gosod y fuddugoliaeth arfaethedig yng nghategori digwyddiadau cenedlaethol pwysig fel yr Eisteddfod Genedlaethol. Fe ddywed, “If Shepherd and Pressdee can bowl Glamorgan to victory, then I am sure the good folk of Swansea will attempt to borrow the Crown and the Chair from the neighbouring National Eisteddfod pavilion to honour them with pride”. Drannoeth y fuddugoliaeth, dywedodd Phil Treseder yn ei bennawd, ‘Welshmen were just like Tigers’, wrth i JBG Thomas ychwanegu’r erthygl ‘Shepherd and Pressdee make a dream come true’. Yn honno, ceir ychydig eiriau o Gymraeg, wrth i’r is-bennawd ddatgan ‘Ymlaen Morgannwg – this was your finest cricketing hour’.

O am gael neidio i mewn i’r tardis a chael gohebu yn Gymraeg ar griced yn ystod yr wythnos honno yn 1964 – ond ganddefnyddio’r eirfa a’r dechnoleg sydd ar gael i ni heddiw. Pe cawn i’r fraint o ohebu ar fuddugoliaeth Morgannwg yn 1964, ond gan ddefnyddio adnoddau cyfoes, dyma flas o’r hyn a ddywedwn:

Buddugoliaeth hanesyddol i Forgannwg

Enillodd Morgannwg y dafl a phenderfynu batio’n gyntaf, a’i chael hi’n anodd ar lain sy’n helpu’r troellwyr yn draddodiadol. Llithrodd Morgannwg i 156-8 cyn i Don Shepherd gamu i’r llain a tharo 24 wrth i’r tîm cartref gael eu bowlio allan am 197.

Ossie Wheatle a Tony Cordle a agorodd y bowlio i Forgannwg gan roi pwysau ar y batwyr agoriadol o’r cychwyn cyntaf. Wrth i’r troellwyr Shepherd a Jim Pressdee ddisodli’r bowlwyr cyflym, buan yr oedd yr Awstraliaid yn 21-5 ac yna’n 39-6, y naill fowliwr wedi cipio dwy wiced a’r llall wedi cipio pedair.

Daeth ychydig o achubiaeth i’r ymwelwyr wrth i Tom Veivers daro hanner canred, gan gynnwys chwech chwech, ond cafodd Awstralia eu bowlio allan am 101, a Morgannwg wedi sicrhau blaenoriaeth batiad cyntaf o 96. Gorffennodd Shepherd y batiad gyda ffigurau bowlio o 4-22, tra bod Pressdee wedi cipio 6-58.

Cyfanswm o 172 a gafodd Morgannwg yn eu hail fatiad, gan osod nod o 269 i’r ymwelwyr i ennill.

Ar ddiwedd yr ail ddiwrnod, roedd yr Awstraliaid wedi cyrraedd 75-1, wedi iddyn nhw golli wiced eu capten Bobby Simpson, a oedd wedi’i ddal gan Peter Walker oddi ar fowlio Shepherd am 32. Cyn pen dim, roedd Awstralia’n 92-4 wrth i’r troellwyr fanteisio ar y tywydd a’r llain unwaith eto. Gobaith olaf yr ymwelwyr oedd Bill Lawry ac fe darodd yn ôl wrth aros wrth y llain am nifer o oriau, wedi’i gefnogi gan Veivers. Ond buan y collodd hwnnw ei wiced wrth fatio mewn ffordd ymosodol, wedi’i fowlio gan Pressdee wrth i’r cyfanswm gyrraedd 169.

Wedi pump awr o fatio a 64 o rediadau wedi’u hychwanegu at y cyfanswm, daeth batiad Lawry i ben, y batiwr llaw chwith yn taro pelen lac i ddwylo Alan Rees oedd yn maesu yn safle’r canol-wiced. Roedd angen 62 o rediadau ar yr ymwelwyr o hyd ac roedd eu gobeithion o sicrhau’r fuddugoliaeth yn dechrau pylu.

Cipiwyd y pedair wiced olaf am 25 o rediadau wrth i Shepherd a Pressdee gipio dwy wiced yr un. Dechreuodd y dathliadau go iawn yn seiniau ‘Hen Wlad Fy Nhadau’ wedi i’r batiwr olaf gael ei ddal gan y wicedwr Eifion Jones oddi ar fowlio Pressdee, a Morgannwg yn fuddugol o 37 o rediadau.

Ar ddiwedd yr ornest, mae’n siŵr yr anelwn am y pafiliwn i chwilio am Alan neu Eifion Jones i gael recordio clip byr i’w gyhoeddi ar y We.

(Cyhoeddwyd yr erthygl yn wreiddiol ym mlwyddlyfr Clwb Criced Morgannwg yn 2015)