Mae’r batiwr agoriadol Will Bragg a’r chwaraewr amryddawn ifanc David Lloyd wedi derbyn cytundebau newydd gan Forgannwg.

Bragg oedd yr unig fatiwr oedd wedi sgorio dros 1,000 o rediadau i’r sir y tymor diwethaf, ac mae e eisoes wedi taro dau ganred dosbarth cyntaf y tymor hwn, gan gynnwys ei gyfanswm gorau erioed o 120 yn erbyn Swydd Gaerlŷr.

Mae e wedi sgorio mwy na 4,000 o rediadau yn ystod ei yrfa mor belled, ac fe dderbyniodd ei gap sirol ddechrau’r tymor.

Dywedodd Will Bragg: “Mae’n deimlad anhygoel cael ymestyn fy nghytundeb wedi i fi ddod drwy’r system ddatblygu.

“Bu’n daith wych mor belled ac rwy’n credu ein bod ni’n dechrau adeiladu rhywbeth fydd yn adeiladol a gobeithio y daw â thlysau i’r clwb yn ystod y blynyddoedd i ddod.

“Mae gyda ni gymysgedd gwych yn yr ystafell newid, cyfuniad o ieuenctid a phileri profiadol yn y tîm ac rwy’n credu ein bod ni’n dechrau cymryd camau breision ymlaen.

“I fi’n bersonol, rwy wedi dechrau’r tymor gyda sawl canred ac er gwaethaf ambell gyfanswm isel yn y canol, rwy mewn sefyllfa dda a gobeithio y bydda i’n sgorio llawer iawn mwy o rediadau’r tymor hwn.”

Cafodd David Lloyd ei ddewis yn gyson i’r tîm cyntaf yn ystod ail hanner y tymor diwethaf, a daeth uchafbwynt pan gipiodd bedair wiced mewn gornest undydd yn erbyn Swydd Durham.

“Rwy wrth fy modd fod fy nyfodol yn y tymor byr gyda Morgannwg.

“Rwy wedi mwynhau fy nghyfleoedd yn y tîm cyntaf ac mae’r tymor yma’n mynd yn eitha da mor belled.

“Yn bersonol, rwy’n teimlo bod fy ngêm wedi datblygu ac rwy’n mwynhau’r awyrgylch, mae ymdeimlad da yn yr ystafell newid ac ry’n ni’n awyddus i symud ymlaen yn y gemau pedwar diwrnod a’r gemau undydd.”

Meithrin doniau

Yn dilyn y newyddion fod Bragg a Lloyd wedi ymestyn eu cytundebau, dywedodd Prif Weithredwr Morgannwg, Hugh Morris mai’r flaenoriaeth o hyd yw meithrin doniau chwaraewyr o Gymru.

“Mae gan Will a David ran fawr i’w chwarae yn ein cynlluniau ni ar gyfer y tîm cyntaf eleni ac yn y dyfodol, felly ry’n ni’n falch fod y ddau chwaraewr wedi ymroi i’r clwb.

“Ein strategaeth yn y tymor hir yw cynhyrchu mwy o dalent o ogledd a de Cymru, felly mae’r newyddion yma’n hwb i’r ddau chwaraewr, y clwb a chwaraewyr ifainc sy’n dyheu am gael helpu’r clwb i chwifio’r faner dros Gymru.”