Bydd criced ar ei hennill o beidio â chaniatáu i dwyllwr ddychwelyd, meddai Alun Rhys Chivers…

Ymateb ydw i yma i ddarn blog gan olygydd chwaraeon ITV, Steve Scott, sy’n dadlau y dylid croesawu cyn-gapten Pacistan, Salman Butt, yn ôl i’r byd criced yn dilyn gwaharddiad am drefnu canlyniadau gemau.

Dyma ychydig o gyd-destun cyn i fi fynd dim pellach.

Roedd Butt yn un o dri o gricedwyr Pacistan – ynghyd â Mohammad Aamir a Mohammad Asif – a gafodd eu carcharu yn 2011 yn dilyn ymchwiliad gan y News of the World.

Roedden nhw’n euog o drefnu canlyniadau gemau ar daith i Loegr yn 2010. Cafodd Butt ei ddedfrydu i 30 mis yn y carchar, gan gwblhau hanner ei ddedfryd yng ngharchar Caergaint cyn cael ei ryddhau. Cafodd Asif ac Amir eu dedfrydu i gyfnodau byrrach dan glo.

O fewn y byd criced, cafodd Butt ei wahardd am ddeng mlynedd – a phump o’r rheini wedi’u gohirio. Cafodd Asif ei wahardd am saith mlynedd (dwy o’r rheini wedi’u gohirio), tra bod Amir wedi’i wahardd am bum mlynedd.

O blith y tri, Amir yw’r unig un yr oedd ei waharddiad wedi’i leihau, a hynny wedi iddo gytuno i gydymffurfio ag ymchwiliad gan uned taclo twyll y Cyngor Criced Rhyngwladol (ICC).

Amir oedd yr unig un o’r tri oedd wedi cyfaddef ei ran yn y sgandal ar unwaith. Daeth cyfaddefiadau Butt ac Asif ddwy flynedd yn ddiweddarach.

Pan gafodd y tri eu carcharu, roedd Asif yn 28, Butt yn 27 ac Amir yn 19.

‘Prynedigaeth’

Y pwynt cyntaf a wna Scott yw bod Butt yn chwilio am ‘redemption’, nid ‘sympathy’. Gadewch i ni edrych ar dair ystyr bosib ‘redemption’ yn ôl y geiriadur. Yn y lle cyntaf:

–        “The action of saving or being saved from sin, error, or evil.”

Mae’r ystyr yma’n awgrymu bod rhyw ddrwg ar waith (fe ddown at hynny maes o law) a bod angen i’r sawl sy’n ildio i’r drwg gael ei achub.

Arhoswn yma gyda’r ddau ddiffiniad mwyaf elfennol, ac efallai’r rhai mwyaf eironig.

–        “The action of regaining or gaining possession of something in exchange for payment, or clearing a debt.”

–        “The action of buying one’s freedom.”

Y ‘possession’ yn y cyd-destun hwn, wrth gwrs, yw ei yrfa ryngwladol a’i statws fel un sy’n cynrychioli’i wlad ar y cae criced.

Y ‘payment’, wrth gwrs, oedd wedi’i arwain i gyflawni’r drosedd yn y lle cyntaf.

Pe bai Bwrdd Criced Pacistan yn rhoi eu sêl bendith i Butt ddychwelyd i’r garfan, byddai Butt yn ddyledus iddyn nhw. Dim ond trwy brofi ei hunan unwaith eto y byddai’r ddyled yn cael ei “chlirio”.

Ond dyma’r pwynt sylfaenol – dydy cysyniad prynedigaeth ddim yn bodoli yng nghrefydd y Mwslim.

Ceisio maddeuant yw’r nod, a sicrwydd na fydd y sawl sydd wedi pechu yn ailadrodd y weithred. Yn ôl Scott, fe ddaw maddeuant o ymadfer, sy’n cynnwys lledaenu’r neges fod trefnu canlyniadau’n demtasiwn y dylid ei hosgoi. Ie, ond maddeuant nid prynedigaeth.

Yn ôl Scott, “Butt was depicted as the enforcer and blamed for coercing young fast bowling talent Amir to enacting his money-making scheme”.

Mae Scott yn dweud hynny mewn modd sy’n ceisio amddiffyn Butt rhag y fath ddarlun ohono. Fe allwch ddehongli’r frawddeg mewn un o ddwy ffordd i gyd-fynd â’ch barn eich hunan.

Yn sicr fel capten, roedd gan Butt ddylanwad dros ei chwaraewyr, yn enwedig y rhai ifanc oedd yn awyddus i greu argraff ar eu cyd-chwaraewyr. Gyda’r dylanwad hwnnw, fed ddaw cyfrifoldeb. Roedd gweithredoedd Butt yn gyfystyr â cham-ddefnyddio’r cyfrifoldeb hwnnw.

‘Cydymdeimlad’

O ddweud mai ceisio ‘prynedigaeth’ ac nid ‘cydymdeimlad’ y mae’r cyn-gapten, fe aiff Scott ymlaen i awgrymu pam y dylen ni gydymdeimlo â Butt.

Roedd Butt, meddai Scott, yn euog o wneud “terrible choice”. Fe gostiodd y penderfyniad ofnadwy hwnnw’n ddrud iddo, meddai:

Today, former teammates and opponents are earning hundreds of thousands of pounds for a few weeks work in the Indian Premier League while Butt is scraping by and counting each day as he nears an unlikely return to cricket.”

Braint i’r lleiafrif yw cael chwarae mewn cystadlaethau ariannol llewyrchus fel yr IPL. Mae’r sawl sy’n chwarae’r gêm i’r safon uchaf o fewn y rheolau a’r moesau yn haeddu’r clod a’r bri – a’r arian o ran hynny.

Dydy rhywun sy’n diystyru’r rheolau er mwyn buddiant personol ddim yn haeddu llewyrch.

Dywed Scott fod Butt yn “llawn edifeirwch”, ond ei fod yn gyndyn iawn o fynd i fanylder am yr hyn ddigwyddodd yn 2010. Os felly, sut allwn fod yn sicr ei fod yn “llawn edifeirwch”?

Y cyfan mae Butt wedi gwneud hyd yn hyn yw dweud y pethau cywir er mwyn adennill ei le yn y tîm cenedlaethol. Un peth o blaid Butt yw ei fod, serch hynny, wedi cynnig ymddiheuriad i’w genedl am yr embaras a achosodd i’w deulu a’i ffrindiau.

Mazher Mahmood – y ‘Fake Sheikh’

Whatever happened, that should not go on in the future generations and what we need to tell them is avoid shortcuts in life and if you get approached by people who provoke you in to getting into something that is not right.

– EX-PAKISTAN CAPTAIN SALMAN BUTT

Mae Scott yn tynnu sylw yma at y defnydd o’r gair ‘provoke’. Y ‘prociwr’ y cyfeiria Butt ato uchod, ym marn Scott, yw Mazhar Mahmood.

Newyddiadurwr o’r News of the World oedd Mahmood ar y pryd, ac fe oedd wedi darganfod a datgelu’r twyll ariannol. Mae Scott yn awgrymu fod Butt rywsut wedi cael ei dwyllo gan Mahmood – ond dw i ddim yn derbyn hynny.

Os oedd unrhyw un yn euog o dwyllo Butt, yna ei asiant, Mazher Majeed oedd hwnnw. Majeed oedd wedi trefnu’r cyfan, ac fe gafwyd yntau hefyd yn euog a’i garcharu ar ddiwedd yr achos llys.

Roedd erlyn y tri chricedwr yn ddibynnol ar dystiolaeth y newyddiadurwr Mahmood. Bellach, fe wyddwn fod Mahmood wedi’i amau o ddweud celwydd yn y llys yn ystod achos arall yn ymwneud â’r gantores Tulisa Contostavlos. Yn naturiol, mae amheuon bellach ynghylch ei dystiolaeth yn achos y tri chricedwr.

Dywed Scott: “A different version of events may emerge at a later date and may, or may not, paint Butt in a better light. The appeals to the Criminal Cases Review Commission are based on the Fake Sheikh’s credibility as a prosecution witness.”

Peth peryglus fyddai defnyddio’r un ffon fesur er mwyn penderfynu a ddylai cricedwr sydd wedi derbyn gwaharddiad gael dychwelyd i’r maes chwarae.

Awgryma Scott y gallai Butt fanteisio maes o law ar gwymp y ‘Fake Sheikh’. O ddarllen hynny mewn ffordd wahanol, fe ddown yn ôl at ‘waredigaeth’ – h.y. fe fydd Butt yn ceisio prynu ei ryddid unwaith ac am byth ac mae’n bosib y gallai dderbyn iawndal pe bai’n dod i hynny.

I gloi, mae Scott yn gofyn “Would cricket welcome him back?”. Mae’r awdur yntau’n cyfaddef fod ‘croesawu’ yn air rhy gryf. Ond mae’n dadlau ar yr un pryd mai ffolineb fyddai cau Butt allan er nad oes lle i’r rhai sy’n twyllo.

Daeth cadarnhad ddydd Iau fod Bwrdd Criced Pacistan yn paratoi i bledio achos Butt gyda’r Bwrdd Criced Rhyngwladol (ICC) – amser a ddengys a fydd y cais hwnnw’n llwyddo.

I fi, nid ffolineb fyddai cau Butt allan ond yn hytrach, synnwyr cyffredin. Mae’r ICC wedi cymryd camau breision i geisio glanhau criced. Mae digon o chwaraewyr sy’n barod i lenwi ei esgidiau.

Ym mhob gêm, mae enillydd a chollwr. Criced fyddai’n ennill o golli Butt.