Mae angladd preifat cyn-gapten Awstralia a’r sylwebydd criced, Richie Benaud wedi cael ei gynnal yn Sydney.

Bu farw Benaud – oedd yn cael ei adnabod fel ‘llais criced’ – o ganser y croen yr wythnos diwethaf yn 84 oed.

Ar ôl yr angladd, cafodd gwasanaeth coffa ei gynnal, ac roedd nifer o enwau blaenllaw o’r byd criced yn bresennol, gan gynnwys Ian Chappell, Shane Warne, Mark Taylor a Michael Clarke.

Roedd prif weinidog Awstralia, Tony Abbott wedi gwahodd y teulu i gynnal angladd cyhoeddus, ond fe wrthodon nhw’r gwahoddiad, gan ddweud y byddai Benaud wedi hoffi cael gwasanaeth preifat.

Cafodd Benaud ei ddisgrifio gan ei deulu fel “person arbennig sy’n golygu cymaint i bob un ohonon ni mewn amryw ffyrdd”.

Cynrychiolodd Benaud ei wlad 63 o weithiau cyn symud i’r blwch sylwebu.

Dywedodd Mark Taylor: “Dw i’n credu mai’r hyn oedd yn ei osod ar wahân i lawer iawn o bobol o’i flaen e ac ar ei ôl oedd ei fod yn hoff iawn o chwarae, o gystadlu a sylwebu a bod yn rhan o’r gêm.”

Mewn teyrnged ar Instagram, dywedodd Shane Warne: “Ro’n i’n eich nabod chi a Daphne am bron i 30 o flynyddoedd ac i bawb, roeddech chi’n chwedlonol ar bob lefel, yn haeddiannol felly. Fel cricedwr, sylwebydd a person, chi oedd y gorau a fu.”