Ar drothwy tymor arall o griced yng Nghymru, dyma ail-lansio ‘Golwg o’r Ffin’, sy’n cadw golwg ar hynt a helynt y byd criced yng Nghymru.
Mae timau Uwch Gynghrair De Cymru bellach yn gwybod pa chwaraewyr proffesiynol fydd yn gwisgo’u crysau’r tymor hwn.
Yn wahanol i’r tymor diwethaf, mae chwaraewyr sydd wedi derbyn capiau gan Forgannwg ymhlith y rhai fydd yn ymddangos yn y gystadleuaeth y tymor hwn.
Mae 14 o chwaraewyr wedi cael eu rhannu rhwng dwy adran yr Uwch Gynghrair, ac maen nhw’n gyfuniad o chwaraewyr profiadol ac aelodau’r Academi.
Bydd y chwaraewyr yn nhîm cyntaf Morgannwg sydd wedi’u cynnwys yn y rhestr ar gael i dimau Uwch Gynghrair De Cymru pan na fydd y sir yn chwarae.
Bydd y rownd gyntaf o gemau’n cael ei chynnal ar Fai 2, a hynny ar ddiwedd cystadleuaeth y Gwpan 20 pelawd.
Y rhestr chwaraewyr yn llawn:
Adran 1:
Rhydaman – Jack Murphy
Pen-y-bont ar Ogwr – Ruaidhri Smith
Caerdydd – Ben Wright
Y Mwmbwls – Aneurin Donald
Castell-nedd – Keiran Bull
Casnewydd – Andrew Salter
Pontarddulais – David Lloyd
Port Talbot – Dewi Penrhyn Jones
Sain Ffagan – Jeremy Lawlor
Ynysygerwn – Will Owen
Adran 2:
Aberdâr – Will Bragg
Crwydriaid Caerfyrddin – Dean Cosker
Meisgyn – Craig Meschede
Panteg – Colin Ingram
Penarth – Mark Wallace
Pentyrch – Michael Hogan
Abertawe – Graham Wagg
Tata Steel – Jacques Rudolph
Tondu – Chris Cooke
Ynystawe – James Kettleborough