Mae mab ac ŵyr y diweddar gricedwr Bernard Hedges wedi dechrau ar daith gerdded o amgylch Cymru fydd yn para 54 diwrnod.

Gadawodd Stephen ac Ellis Hedges gaffi Tram’s Diner yn Y Mwmbwls toc wedi 10yb heddiw, ac roedd rhai o gricedwyr ifainc y dref yno i ddechrau’r daith gyda nhw.

Maen nhw’n codi arian ar gyfer Criced Cymru er cof am y cricedwr fu farw’n gynharach eleni.

Maen nhw’n gobeithio codi hyd at £10,000 ar gyfer criced i blant ar lawr gwlad.

Bydd eu taith o amgylch ffiniau Cymru’n dod i ben yn Y Mwmbwls ar Awst 29.

Dywedodd Stephen Hedges wrth Golwg360: “Pan fu farw ’nhad yn gynharach eleni, ro’n i’n teimlo ’mod i am wneud rhywbeth er cof amdano fe.

“Dwi’n dipyn o gerddwr ac ro’n i’n ymwybodol o’r her o gerdded ar hyd Llwybr yr Arfordir.

“Gobeithio y galla i a’r mab wneud rhywbeth y byddai Dad yn falch ohono fe.”

Bernard Hedges

Pedair oed yn unig oedd Stephen Hedges pan ddaeth gyrfa ei dad fel cricedwr i ben, ond mae’n dweud ei fod e a’r teulu yn falch iawn o’r hyn wnaeth e ei gyflawni.

“Er ’mod i ddim wir yn ei gofio’n chwarae i Forgannwg, un o’r atgofion pennaf sydd gyda fi yw cael mynd gyda Dad i wylio gemau fel bachgen bach.

“Un ohonyn nhw oedd gêm dysteb Alan Jones, lle ces i salad ham gyda’r chwaraewr rygbi enwog Barry John!”

Bron hanner can mlynedd wedi ei ymddeoliad, mae’n seithfed ymhlith prif sgorwyr Morgannwg ac mae’n un o chwech o gricedwyr Morgannwg sydd wedi sgorio 2,000 o rediadau mewn tymor.

Ond ei gyflawniad mwyaf, efallai, oedd sgorio’r canred undydd cyntaf i Forgannwg, a hynny yn erbyn Gwlad yr Haf yn 1963.

“Fel teulu, roedd gyda ni fedal Dad o’r gêm honno, sydd bellach wedi’i chadw yn yr Amgueddfa yn Stadiwm Swalec.

“Roedd Dad yn ganolog iawn i ysbryd y sir ac fel teulu – roedd e’n un o wyth o blant – ry’n ni i gyd yn awyddus i gael cyhoeddusrwydd i ddyn diymhongar iawn.”

Y daith

Mae clybiau criced ledled Cymru wedi bod yn cynnig llety iddyn nhw ar hyd y daith.

Bu’r ddau yn paratoi trwy gerdded yn ardal Clawdd Offa, lle byddan nhw’n cerdded tua diwedd y daith.

Ychwanegodd: “Dwi wedi gwneud tipyn o gerdded o’r blaen ond fe fydd e’n brofiad newydd i Ellis.

“Mae e’n 20 oed ac yn ifanc felly ddylai hi ddim bod yn broblem iddo fe.

“Dw i, ar y llaw arall, yn dathlu ’mhenblwydd yn 50 tra byddwn ni’n cerdded!”

Sut fydd Stephen ac Ellis yn teimlo erbyn diwedd y daith, tybed?

“Dwi’n siŵr y byddwn ni’n dathlu gyda Knickerbocker Glory yn Joe’s pan ddown ni nôl!”

Mae manylion y daith ar y dudalen Facebook, ac mae modd cyfrannu i’r achos trwy’r dudalen Justgiving.

Gallwch ddilyn hynt a helynt y daith ar y dudalen Twitter

Cyrchfan dyddiol:

Gorffennaf 5 – Rhosili

Gorffennaf 6 – Casllwchwr

Gorffennaf 7 – Cydweli

Gorffennaf 8 – Llansteffan

Gorffennaf 9 – Pentwyn

Gorfennaf 10 – Dwyrain Freshwater

Gorffennaf 11 – Angle

Gorffennaf 12 – Aberdaugleddau

Gorffennaf 13 – Traeth Musselwick

Gorffennaf 14 – Solfach

Gorffennaf 15 – Abercastell

Gorffennaf 16 – Abergwaun

Gorffennaf 17 – Bae Celbwr

Gorffennaf 18 – Aberporth

Gorffennaf 19 – Aberaeron

Gorffennaf 20 – Aberystwyth

Gorffennaf 21 – Machynlleth

Gorffennaf 22 – Tonfannau

Gorffennaf 23 – Tal-y-bont

Gorffennaf 24 – Maentwrog

Gorffennaf 25 – Llanystumdwy

Gorffennaf 26 – Abersoch

Gorffennaf 27 – Aberdaron

Gorffennaf 28 – Nefyn

Gorffennaf 29 – Caernarfon

Gorffennaf 30 – Conwy

Gorffennaf 31 – Malltraeth

Awst 1 – Pontrhydybont

Awst 2 – Caergybi

Awst 3 – Cemlyn

Awst 4 – Dulas

Awst 5 – Penmon

Awst 6 – Conwy

Awst 7 – Bae Colwyn

Awst 8 – Mostyn

Awst 9 – Caer

Awst 10 – Prestatyn

Awst 11 – Bodfari

Awst 12 – Llandegla

Awst 13 – Tre’ronnen

Awst 14 – Tal-y-bont

Awst 15 – Brompton

Awst 16 – Trefyclo

Awst 17 – Y Gelli Gandryll

Awst 18 – Pandy

Awst 19 – Trefynwy

Awst 20 – Cas-gwent

Awst 21 – Gwlyptir Casnewydd

Awst 22 – Bae Caerdydd

Awst 23 – Rhŵs

Awst 24 – Pen-y-bont ar Ogwr

Awst 25 – Y Mwmbwls