Simon Jones
Nid yw cyn-fowliwr Morgannwg, Simon Jones  wedi cael ei brynu yn rownd gyntaf yr ocsiwn ar gyfer cystadleuaeth undydd yr IPL yn India.

Cyrhaeddodd Simon Jones y rhestr derfynol o 512 o chwaraewyr oedd yn gobeithio cael eu prynu gan un o’r timau.

Fe fyddai’n rhaid i un o’r timau fod wedi talu 3 miliwn rupee (tua £29,500) am y bowliwr cyflym 35 oed.

Unwaith bydd y 512 o chwaraewyr wedi cael eu cynnig i’r timau, fe fydd ail gyfle i’r chwaraewyr na chafodd eu prynu y tro cyntaf.

Dywedodd Jones yr wythnos diwethaf y byddai’n chwilio am gytundeb i barhau i chwarae yn Lloegr pe na bai’n llwyddiannus yn yr ocsiwn.

Mae’r ocsiwn, a ddechreuodd y bore ma ac a fydd yn parhau yfory, yng ngofal y Cymro Richard Madley.