Mae clwb criced Morgannwg wedi cyflwyno cais ar y cyd â Llywodraeth Cymru a Chyngor Caerdydd i roi cartref i bencadlys y Cyngor Criced Rhyngwladol (ICC) o 2015 ymlaen.

Mae adroddiadau wedi awgrymu bod yr ICC yn ystyried prifddinas Cymru, ynghyd â Colombo a Singapore, i gymryd lle Dubai fel cartref canolfan weinyddol y sefydliad.

Roedd yr ICC wedi’i leoli yn Lord’s tan 2005 pan symudodd i Dubai. Mae clwb criced Morgannwg wedi cadarnhau bod trafodaethau cychwynnol rhyngddyn nhw a’r ICC wedi dechrau.

Meddai Morgannwg mewn datganiad: “Mae hi’n gynnar o ran y trafodaethau ond maen nhw’n parhau,  ac mae Caerdydd yn  un o nifer o bosibiliadau sy’n cael eu hystyried.”

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru eu bod nhw wedi cymryd rhan mewn trafodaethau ar y mater ond bod unrhyw fanylion yn parhau i fod yn gyfrinachol ar hyn o bryd.