Mae Iwerddon wedi curo Lloegr o dair wiced yng Nghwpan Criced y Byd yn Bangalore.
Roedd Lloegr wedi gosod targed o 328 i’r Gwyddelod ar ôl gorffen eu 50 pelawd ar 327-8, gyda Jonanthan Trott yn sgorio 92 ac Ian Bell 81.
Ond seren y gêm oedd Kevin O’Brien i Iwerddon, ar ôl iddo sgorio’r cyntaf cyflymaf yn hanes Cwpan y Byd gan gymryd 50 pêl yn unig i gyrraedd y cyflawniad.
Fe aeth ‘mlaen i sgorio 113 cyn cael ei redeg allan gan Paul Collingwood.
Er bod Iwerddon wedi colli eu chwaraewr dylanwadol roedd John Mooney a Trent Johnston wedi aros yn gadarn gan sicrhau bod Iwerddon yn sgorio 329-7 a chipio buddugoliaeth hanesyddol.