Mae Morgannwg wedi cyhoeddi eu bod nhw wedi gwneud colled ariannol am y tro cyntaf mewn pedair blynedd.

Roedd y golled o £366,301 yn 2010 ychydig yn fwy nag oedd y Dreigiau wedi paratoi amdano.

Dywedodd Morgannwg mai cynnal dwy gêm ugain pelawd ryngwladol mis Medi diwethaf oedd yn bennaf gyfrifol am y golled ariannol.

“Mae’n siomedig gorfod cyhoeddi ein bod ni wedi gwneud colled am y tro cyntaf ers 2006,” meddai Prif Weithredwr Morgannwg, Alan Hamer.

“Cyfuniad o’r hinsawdd economaidd anodd, costau llog ar ein benthyciadau, a’r gemau 20 pelawd ryngwladol oedd yn bennaf gyfrifol.

“Ond o eithrio gemau Lloegr a Pacistan, roedd ein perfformiad yn 2010 yn debyg i’n hamcangyfrifon.”

Ychwanegodd Alan Hamer ei fod yn disgwyl i Forgannwg wneud colled eto yn 2011 cyn dychwelyd i elw yn 2012.