Toby Radford sydd wedi’i benodi i olynu Matthew Mott fel hyfforddwr tîm criced Morgannwg.

Yn ôl adroddiadau, roedd cyn-chwaraewyr Morgannwg, Steve Watkin, Robert Croft ac Otis Gibson wedi gwneud cais am y swydd, yn ogystal â’r gŵr o Zimbabwe, Dave Houghton.

Cyhoeddodd Mott, sy’n hanu o Awstralia, na fyddai’n dychwelyd i Gymru’r tymor nesaf ar ôl tri thymor wrth y llyw.

Yn enedigol o Gaerffili, mae Radford yn dychwelyd i Gymru ar ôl cyfnod fel is-hyfforddwr a hyfforddwr batio tîm cenedlaethol India’r Gorllewin gyda Gibson, lle cafodd gryn dipyn o lwyddiant wrth gipio tlws Cwpan T20 y Byd yn Sri Lanka yn 2012.

Bu hefyd yn flaenllaw wrth sefydlu Academi India’r Gorllewin ac Academi Middlesex, ac fe fu’n hyfforddwr tîm buddugol Middlesex yn y T20 yn 2008.

Yn ystod ei yrfa fer fel chwaraewr, cynrychiolodd siroedd Middlesex a Sussex.

Mae’n fab i gyn-newyddiadurwr y Western Mail, Brian Radford.

‘Anrhydedd’

Yn dilyn y cyhoeddiad, dywedodd Toby Radford: “Mae’n anrhydedd cael cynnig y swydd hon ac rwy’n edrych ymlaen at gydweithio gyda’r Prif Weithredwr a Chyfarwyddwr Criced, Hugh Morris,  chwaraewyr a hyfforddwyr presennol Morgannwg, wrth ddod â llwyddiant i’r tîm y gwnes i ei gefnogi fel bachgen ifanc.

“Roedd hi’n wych gweld y tîm yn cyrraedd ffeinal yn Lord’s ar ddiwedd y tymor, ac rwy’n credu bod gyda ni gyfle gwych i adeiladu ar y llwyddiant hwn a datblygu tîm y gall y Cymry fod yn falch ohono.”

Dywedodd Prif Weithredwr Morgannwg, Hugh Morris fod gan Radford “enw cryf fel un o’r hyfforddwyr ifanc mwyaf talentog yng Nghymru a Lloegr”, a’i fod yn “gaffaeliad” ac yn “Gymro balch”.

Fe fydd Radford yn dechrau ei swydd newydd yn swyddogol ar 1 Tachwedd.