Siom i Forgannwg yn Lord’s

Colli fu hanes Morgannwg yn rownd derfynol Pencampwriaeth Deugain Pelawd Yorkshire Bank yn erbyn Swydd Nottingham yn Lord’s brynhawn Sadwrn.

Wrth fatio gyntaf, gosododd Nottingham darged o 245 ar ôl sgorio 244 rhediad am wyth wiced yn eu deugain pelawd hwy.

Dechreuodd Morgannwg yn dda wrth anelu at y sgôr honno gan sgorio 108 o rediadau am y ddwy wiced gyntaf, ond siomi a wnaeth y batiwyr wedi hynny a methodd y gynffon a chyfrannu llawer wrth i Nottingham fowlio’r Cymry allan am 157, i ennill o 87 rhediad gyda saith pelawd wrth gefn.

Capten Nottingham, Christopher Read, oedd yr unig fatiwr o’r ddau dîm i sgorio dros hanner cant ond cafwyd cyfraniadau parchus gan sawl un o dîm Nottingham wrth iddynt osod targed cymharol uchel i Forgannwg.

Ac er gwaethaf dechrau da diolch i Rees, Cooke ac Allenby methu ag efelychu’r targed hwnnw fu hanes Morgannwg.

Roeddynt yn wynebu dau o fowliwyr gorau’r byd yn Stuart Broad a Graeme Swann ond dau arall a wnaeth y difrod cynnar i Nottingham wrth i Samit Patel ac Ajmal Shahzad gipio tair wiced yr un. Ymunodd Broad yn yr hwyl yn y diwedd gan gipio tair hefyd wrth i ddiwrnod Morgannwg orffen yn hynod siomedig.

.

Swydd Nottingham (244 am 8)

Batio

Chris Read – 53

David Hussey – 42

Graeme Swann – 29

Bowlio

Simon Jones – 2 am 36

Andrew Salter – 2 am 41

Michael Hogan – 2 am 49

.

Morganwg (157 i gyd allan)

Batio

Christopher Cooke – 46

James Allenby – 34

Gareth Rees – 29

Bowlio

Samit Patel – 3 am 21

Stuart Broad – 3 am 29

Ajmal Shahzad – 3 am 33