Mae Morgannwg wedi dewis yr un tîm ag enillodd yn erbyn yr Hampshire Royals yn y rownd gyn-derfynol o’r gêm 40 pelawd yn yr Ageas Bowl, i herio’r Nottingham Outlaws yfory yn y rownd derfynol yn Lord’s.

Bydd Ruaidhri Smith a Nick James yn cael eu hychwanegu i’r garfan hefyd.

Ni fydd y bowliwr, Jake Ball yn chwarae yfory i Nottingham oherwydd anaf i’w gefn.  Mae Ball wedi bd yn rhan allweddol o lwyddiant yr Outlaws y tymor yma gan gymryd 19 wiced yn y gystadleuaeth.  Ond fydd y ddau chwaraewr rhyngwladol Stuart Broad a Graeme Swann yn chwarae i’r tîm o Loegr.

Un chwaraewr sydd yn edrych ymlaen at yr her yw troellwr Morgannwg, Dean Cosker.

‘‘Mae’n achlysur enfawr ond mae’n rhaid i ni canolbwyntio ar y gêm sydd o’n blaenau i sicrhau’r fuddugoliaeth.  Ni allwn adael i’r achlysur yma gael y gorau ohonom,’’ meddai Cosker.

Tîm Morgannwg

G Rees; M Wallace; C Cooke; MW Goodwin; J Allenby; B Wright; G Wagg; A Salter; D Cosker; M Hogan; SP Jones; R Smith a N James.