Matthew Mott
Fe gyhoeddodd clwb criced Morgannwg fod hyfforddwr y tîm cynta’n gadael ddiwedd y tymor.

Mae’n ymddangos mai Matthew Mott oedd wedi penderfynu y byddai’n mynd yn ôl i Awstralia ar ôl treulio tair blynedd yn ne Cymru.

Mae canlyniadau’r tîm yn y cystadlaethau byr wedi gwella eleni ac mae ganddyn nhw obaith main o hyd o gyrraedd rowndiau terfynol y gystadleuaeth 40 pelawd.

Hynny a mynd cyn uched â phosib ym Mhencampwriaeth y Siroedd yw’r nod tymor byr, meddai Cadeirydd y sir, Alan Hamer.

Ond fe fyddan nhw wedyn yn mynd at i chwilio am hyfforddwr newydd.

Yn ôl sylwebydd criced y BBC, Edward Bevan, fe fydd y newid yn gyfle i edrych eto ar batrwm hyfforddi’r sir.