Morgannwg 153-9, Middlesex 142-9

Y bowlwyr a enillodd y gêm ddiweddara’ i Forgannwg yn y gystadleuaeth 40 pelawd.

Maen nhw bellach yn gyfartal ar frig eu grŵp o ran pwyntiau, gydag un gêm yn fwy na’r gweddill i’w chwarae.

Gyda thair gêm ar ôl, mae ganddyn nhw gyfle da o gyrraedd rowndiau cyn derfynol y gystadleuaeth ac anelu am y gêm derfynol yn Lords.

Y sgorio

Gyda’r gêm wedi ei thorri i ddim ond 25 pelawd yr un, Morgannwg a fatiodd i ddechrau, gyda Gareth Rees yn cael 32 mewn 53 pelen cyn cael ei fowlio gan gyn chwaraewr Morgannwg, James Harris.

Fe ddirywiodd pethau i 87-6 cyn i’r batwyr ola’ sgorio’n gyflym – gan gynnwys 18 rhediad oddi ar belawd ola’ James Harris.

Roedd hynny’n allweddol wrth i Forgannwg ennill yn y diwedd o 11.

Roedd y bowlwyr i gyd yn dynn, gyda Simon Jones yn cael dwy wiced mewn dwy belen a’r troellwr Dean Cosker yn cael tair mewn 11.