Mae gobeithion Morgannwg o gyrraedd rownd wyth olaf cystadleuaeth y T20 yn dal yn fyw, yn dilyn buddugoliaeth o bum wiced yn erbyn Swydd Gaerwrangon yng Nghaerdydd neithiwr.

Cyrhaeddodd Morgannwg y nod o 158 yn y belawd olaf, gyda phum pelen yn weddill.

Tarodd Murray Goodwin a Jim Allenby hanner canred yr un.

Roedd hon yn fuddugoliaeth werthfawr i Forgannwg, ar ôl colli’r tair gêm flaenorol.

Mae’r fuddugoliaeth yn golygu eu bod nhw wedi ennill pedair a cholli tair yn y grŵp.

Sgoriodd Caerwrangon 157-6 yn eu batiad nhw, ac fe gafodd Morgannwg ddechreuad gwael wrth gwrso.

Collodd Mark Wallace ei wiced yn yr ail belawd, cyn i Chris Cooke gael ei ddal gan y trydydd dyn, ac fe gafodd y capten Marcus North ei ddal gyda’i goes o flaen y wiced gan Moeen Ali.

Wrth i bartneriaeth Allenby a Goodwin ddechrau, roedd angen 100 o rediadau oddi ar 10 pelawd am y fuddugoliaeth.

Cafodd y ddau bartneriaeth pedwaredd wiced o 57 oddi ar 43 o belenni cyn i Allenby gael ei ddal gan Gareth Andrew.

Collodd Goodwin ei wiced oddi ar belen olaf yr ail belawd ar bymtheg, ac roedd angen 18 rhediad oddi ar y ddwy belawd olaf.

Daeth Ben Wright i’r wiced a tharo 22 oddi ar 12 o belenni, gan sgorio 13 oddi ar bedair pelen gyntaf y belawd olaf ond un.

Un rhediad oedd ei angen yn y belawd olaf, ac fe gafwyd hwnnw oddi ar belen gyntaf y belawd.

Yn gynharach yn y noson, Thilan Samaraweera oedd seren fatio Swydd Gaerwrangon, gan daro 65 oddi ar 42 o belenni, oedd yn cynnwys wyth ergyd at y ffin ac un ergyd dros y ffin.

Cafodd Samaraweera bartneriaeth o 91 gydag Alexi Kervezee oddi ar 10.1 pelawd.

Cipiodd bowliwr Morgannwg, Graham Wagg 3-15 oddi ar bedair pelawd.