Fe allai’r Albanwr, Ruaidhri Smith gael ei gynnwys yn nhîm Morgannwg am y tro cyntaf heno.

Mae’r Cymry’n herio Swydd Gaerwrangon yn Stadiwm Swalec heno yng nghystadleuaeth y T20.

Mae Smith wedi plesio i’r ail dîm y tymor hwn, ac fe gynrychiolodd Yr Alban yng nghystadleuaeth yr Yorkshire Bank 40 yn gynharach yn y tymor.

Mae’r agorwr llaw chwith, Gareth Rees hefyd wedi’i gynnwys yn y garfan o 13 dyn.

Sgoriodd Rees ganred yn erbyn Swydd Gaerhirfryn yn y Bencampwriaeth yr wythnos diwethaf, ac fe darodd 151 i Ynysygerwn yn Uwch Gynghrair Cymru ddydd Sadwrn.

Swydd Gaerwrangon oedd yn fuddugol y tro diwethaf i’r ddwy sir herio’i gilydd yn y gystadleuaeth hon yn 2009.

Mae Swydd Gaerwrangon ar waelod y grŵp ar ôl cael eu trechu gan Swydd Northampton o bum wiced ddydd Sul.

Mae Morgannwg yn y trydydd safle, ond wedi’u curo gan Swydd Northampton, Gwlad yr Haf a Swydd Gaerloyw yr wythnos hon.

Carfan Morgannwg: Jim Allenby, Mark Wallace, Chris Cooke, Marcus North, Murray Goodwin, Gareth Rees, Ben Wright, Nick James, Graham Wagg, Nathan McCullum, Michael Hogan, Dean Cosker, Ruaidhri Smith.