Mark Colbourne yn rasio
Cafodd Mark Colburne, enilliodd fedal aur gyntaf Cymru yn y Gemau Paralympaidd yn Llundain, ei gydnabod a’i longyfarch yn ei dref enedigol yn Nhredegar heddiw.

Cafodd ei gario mewn bws awyr agored trwy’r strydoedd cyn derbyn rhyddid y dref  gan y cyngor.

Enilliodd Mark Colbourne ei fedal aur yn y ras seiclo unigol C1 3km gan greu record y byd newydd.

Torrodd ei gefn ac mae gwaelod ei goesau yn ddifrwyth yn dilyn damwain paragleidio ond heddiw dywedodd arweinydd y cyngor Malcolm Cross ei fod yn batrwm o fodel sy’n haeddu cydnabyddiaeth.

Ychwanegodd y Maer, Andrew Cotton bod y dref eisiau cydnabod camp Mark.

“Dyma achlysur hanesyddol fydd yn byw ym meddyliau llawer o bobl yn Nhredegar am flynyddoedd,” meddai.