Mark Williams
Matthew Stevens yw’r unig Gymro ar ôl ym Mhencampwriaeth Snwcer Agored Cymru ar ôl i Mark Williams golli.

Ar ôl cyfnod da pan gododd i’r ail le yn rhestr goreuon y byd, roedd Williams ymhell o fod ar ei orau wrth golli o 5-3 yn erbyn Stephen Maguire.

Ar ôl sawl cant mewn rowndiau cynharach, dim ond 63 oedd rhediad ucha’r Cymro mewn gêm fratiog.

Fe fydd Stevens yn wynebu her fawr am saith o’r gloch heno, wrth wynebu cyn-bencampwr y byd, John Higgins, yn rownd yr wyth ola’.