Frankie Boyle
Mae’r comedïwr Frankie Boyle wedi corddi’r dyfroedd unwaith eto yn dilyn nifer o sylwadau sarhaus a wnaethpwyd ganddo’n ystod seremoni agoriadol y Gemau Paralympaidd neithiwr.
Fe ddywedodd Frankie Boyle fod mwyafrif o dîm Saudi Arabia yn “lladron”, gan gyfeirio at sut y mae rhai troseddwyr yn cael eu dwylo wedi’u torri i ffwrdd am ddwyn.
Yn 2009, cafodd Frankie Boyle ei geryddu gan Ymddiriedolaeth y BBC am sylwadau sarhaus tuag at y nofiwr Olympaidd Rebecca Adlington.
Gwawdio’r Frenhines
Fe ddywedodd neithiwr hefyd nad oedd wedi gweld y Frenhines, a oedd yn agor y Gemau yn swyddogol, “yn gwenu ers i(’r Dywysoges) Diana farw.”
Ar ôl gadael y BBC o dan gwmwl, fe ddychwelodd i Channel 4 – y sianel sy’n darlledu’r Gemau Paralympaidd.
Fe dderbyniodd un o’i raglenni, ‘Tramadol Nights’, dros 500 o gwynion ar ôl iddo wawdio mab anabl Katie Price.