Fred Evans
Sicrhaodd y Cymro, Fred Evans, fedal yn y Gemau ar ôl crafu drwodd i’r rownd gynderfynol yng nghystadleuaeth y bocsio.

Enillodd y paffiwr pwysau welter ei ornest yn erbyn Custio Clayton o Ganada neithiwr.

Fred Evans, sy’n 21 oed, fydd y Cymro cyntaf i hawlio medal yn y bocsio yn y Gemau Olympaidd ers Ralph Evans yn 1972.

Colli oedd hanes y Cymro arall, Andrew Selby, fodd bynnag. Cafodd ei drechu gan y gŵr ifanc o Cuba, Robeisy Ramirez.

Yn dilyn llwyddiant y Prydeinwyr yn y bocsio neithiwr, mae Prydain wedi cael yr un faint o fedalau ag ym Melbourne ym 1956 – ei record gorau ers yr Ail Ryfel Byd.