Mae Ian Woosnam wedi dweud y byddai wrth ei fodd pe bai Capten Ewrop, Jose Maria Olazabal, yn ei ddewis fel un o’i gynorthwywyr i’r gystadleuaeth Cwpan Ryder.

Bydd Olazabal yn enwi 4 is-gapten ar gyfer y digwyddiad yn Medinah, Illinois yn America ym mis Medi, lle bydd Erwop yn obeithiol i adennill y tlws fel y gwnaethant yn y Celtic Manor yn 2010.

‘‘Pe bai yn cysylltu â mi, byddwn yn bendant â diddordeb mewn helpu,’’ meddai Woosnam sydd wedi chwarae wyth gwaith yng nghystadleuaeth Cwpan Ryder.

Mae Woosnam yn gyfarwydd â Jose, ac yn ffyddiog y byddai’n gwneud Capten da.

‘‘Mae wedi ennill dwy brif deitl, dyma’r fath o ddyn byddwn yn hapus iawn i chwarae iddo.  Mae’n uchelgeisiol, yn emosiynol iawn ac yn cael y gorau allan o bobl,’’ dywedodd Woosnam.

‘‘Gallaf rannu fy mhrofiadau gydag ef, a helpu gyda pharu’r chwaraewyr yn y gystadleuaeth,’’ ychwanegodd Woosnam.