Dechreuodd y Cymro Mark Webster gystadleuaeth Uwch Gynghrair y Dartiau gyda buddugoliaeth gadarnhaol yn erbyn James Wade.

Maeddodd y dyn o Ddinbych James Wade 8-3 yn ei gêm gyntaf o’r gystadleuaeth yn yr O2 Arena.

Cafodd wahoddiad ‘wildcard’ i ymuno gyda’r gystadleuaeth ar ôl sawl perfformiad gwych dros yr 18 mis diwethaf.

Roedd Webster wedi cyrraedd rownd gynderfynol y ddwy Bencampwriaeth y Byd diweddaraf yn ogystal ag arwain Cymru i rownd derfynol Cwpan Dartiau’r Byd ym mis Rhagfyr.

Bydd wyth o sêr mwyaf y byd dartiau yn herio ei gilydd am y wobr £410,000 dros gyfnod o 14 wythnos.

“Mae’n mynd i fod yn 14 wythnos o ddartiau o’r safon uchaf, ac rwy’n credu y bydd hi’n gystadleuaeth gwerth chweil i mi,” meddai Webster.

“Dw i wedi gwylio’r gystadleuaeth bob blwyddyn ers saith mlynedd a dw i’n teimlo’n lwcus i gael cymryd rhan.

“Alla’i ddim cwyno ar ôl y gêm gyntaf. Roeddwn i wedi gobeithio ennill pwynt. Roedd ennill 8-3 yn arbennig ac rydw i’n edrych ymlaen at yr wythnos nesaf.

“Dw i byth yn cymryd rhan os nad ydw i’n meddwl ei bod hi’n bosib i fi ennill, felly dyna’r nod.”