Nathan Cleverly - yn barod am yr her
Fe fydd Nathan Cleverly yn wynebu Jurgen Braehmer am goron is-drwm WBO y byd yn Llundain ym mis Ebrill. 

Fe enillodd y Cymro diguro’r goron interim ym mis Rhagfyr ac roedd hynny’n golygu mai ef oedd â’r hawl i herio’r Almaenwr am y bencampwriaeth. 

Mae hyrwyddwr y bocsiwr o Gefn Fforest, Frank Warren wedi dweud bod disgwyl i’r ornest cael ei drefnu ar gyfer 2 Ebrill. 

“Roeddwn ni wastad wedi meddwl bydden ni’n cael cyfle yn erbyn Braehmer,” meddai Nathan Cleverly. 

“Roedd ’na sôn y byddai Braehmer wedi colli’r goron, ond doedden ni ddim am i hynny ddigwydd.

“Mae ef yn bencampwr byd, ac yr unig ffordd y gallen i ystyried fy hun yn bencampwr byd yw trwy guro Braehmer yn y sgwâr.”

Mae Frank Warren wedi dweud ei fod wrth ei ffodd i sicrhau’r ornest ym Mhrydain i’r Cymro. 

“Mae Nathan wedi gweithio’n galed iawn am y cyfle ac wedi aros yn amyneddgar amdano.

“Mae’n cael yr ornest ar yr amser iawn, ac fe allai fod yn achlysur enfawr yn ei yrfa.  Mae’n ornest enfawr.

“Mae Brahmer wedi profi ei hun yn bencampwr sy’n perthyn i’r lefel uchaf, tra bod Cleverly yn ifanc yn awyddus i lwyddo- fe allai fod y bocsiwr Prydeinig mawr nesaf.”